Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eilwaith. Gwyliai'r gynulleidfa'r ornest mewn pryder. Ni thynnodd Dafydd Morgan ei lygaid oddi arno, ac yn y man aeth cryndod cryf i gorff yr heriwr a gwelwder i'w wedd, a syrthiodd ei wyneb eilwaith i astell y sedd o'i flaen, ac ni ddyrchafodd ef mwy hyd derfyn yr oedfa.[1] Cafwyd degau o enghreifftiau o effaith yr un gallu yng ngwaith Evan Roberts yntau yn Niwygiad mawr 1904-5. Rhysedd ydyw credu y dewis Duw gyfryngau bach a distadl i weithio trwyddynt i'r diben o amlygu ei fawredd ei hun. Ei arfer ef ydyw dewis personoliaeth fawr.

Yr oedd Humphrey Jones yn bregethwr da ac yn bersonoliaeth gref, ond yr oedd yn fwy mewn gweddi nag mewn dim. Sonia hen Gymry'r America a'r wlad hon hyd yn awr am ei weddiau. Am y pum wythnos y bu yn Nhre'rddol llanwai'r wlad â'i weddiau. Gweddiai yn y capel fin nos nes toddi calonnau'r gynulleidfa, a gweddiai yn y maes a'r goedwig liw dydd oni ddaliai drigolion yr holl fro yn gaeth i bethau ysbrydol. Arferai godi cyn dydd a thynnu i fyny trwy feysydd Dolcletwr i allt o goed ar lechwedd sydd ychydig bellter i'r dde o waith mwyn plwm Bryn yr Arian, ac yno tan y deri, gweddiai, â'i lais mawr yn llanw'r ddau bentref. Adroddai Mrs. Margaret Edwards, gweddw Lewis Edwards, Taliesin, y cofiai hi Wmffre Jones yn dda,-ei gofio'n gweddio. Arferai ei thad, William Jones, y gof, godi'n fore iawn, ac ar droeon âi at droed y grisiau a gweiddi, "Codwch, blant, i chwi glywed Humphrey Jones yn gweddio." Cynhyrchai'r gweddio yn y goedwig fraw a dwyster dieithr yn yr holl fro.

  1. "Dafydd Morgan a Diwygiad '59," tud. 459.