Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI.
AR Y MYNYDDOEDD.

Tybiaf na warafun neb y sylw helaeth a roddwyd i Dre'rddol. Y mae'n haeddu mwy o sylw nag unrhyw le arall oherwydd bod yn gychwynfan y Diwygiad a effeithiodd ar Gymru i gyd. Aeth Humphrey Jones i Ystumtuen ddechrau Awst, 1858. Un o'r pentrefi lleiaf a welir yw Ystumtuen, yn cynnwys capel Wesleaidd, ac Ysgol bob dydd, a thŷ gweinidog a phedwar neu bum tŷ annedd. Y mae'r pentref ar uchaf mynydd noethlwm a thynnu caled iddo o bob cyfeiriad. Gwelir mân dyddynod yma a thraw â chryn bellter rhyngddynt. Defaid a fegir yno fwyaf, a'r rheini'n ddefaid Cymreig; y mae'n rhy noeth ac oer i fagu llawer o ddim arall yn y gymdogaeth. O fyned tros Droed-yr-henriw gall y cryf hir ei gam gyrraedd Ponterwyd mewn hanner awr fawr, a dwg pum munud o gerdded i gyfeiriad y De un i olwg Cwm Rheidiol â'r afon yn ei fynwes yn llifo'n hamddenol wedi naid arswydus tan Bont-y-Gŵr-drwg ym mlaen y Cwm. Yn uchel ar lechwedd draw y Cwm gwelir y dren fach â llwyth o ymwelwyr â'r Raeadr yn ymlusgo'n araf ar gledrffordd Mynach. Llwyd a dof yw'r pentref, eithr yn ei ymyl y mae un o'r golygfeydd mwyaf rhamantus ac ysblenydd ym Mhrydain Fawr. Yn 1859, ac am flynyddoedd wedyn, gweithiai llawer o ddynion yng ngwaith mwyn plwm Ystumtuen, a llenwid y capel mawr hyd ei ddrws, ond ers blynyddoedd bellach y mae'r gwaith yn segur a'r capel yn hanner gwag.

Ar brynhawn Sadwrn ym mis Awst, 1858,-yr ail ddydd Sadwrn o'r mis, mi a dybiaf,-marchogai Humphrey Jones ferlen Bwadrain, yn ei wisg Americanaidd, i gyfeiriad Ystumtuen. Adeg brysur cynhaeaf ydoedd, a gwair cwta'r mynyddoedd yn galw am ei ladd, ond gymaint ydoedd clod y Diwygiwr a'r disgwyl am dano