Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel y llanwyd y capel ymhell cyn adeg dechrau'r oedfa. Aeth i'r pulpud "a rhyw olwg nefolaidd arno," a phregethodd i geisio deffroi ysbryd yr eglwys. Drannoeth, pregethu i'r eglwys eilwaith, a chaed cyfarfod gweddi yn y prynhawn. Rheol y Diwygiwr ydoedd deffroi'r eglwys yn gyntaf peth. Ei gyngor i bregethwr ieuanc y tybiai ef y deuai'n fuan yn ddiwygiwr fel yntau ydoedd, "Os ydych am fod yn llwyddiannus, pregethwch bregethau llym i'r eglwys yn gyntaf. Ymdrechwch at ddeffroi Seion. Pa faint bynnag a bregethwch chwi i'r byd, ni fydd o fawr les heb gael Seion o'i chwsg yn gyntaf."[1] Nos Lun pregethodd yn rymus bregeth a apeliai bron yn gwbl at y gwrandawyr na phroffesai grefydd, a chaed dylanwad a ymddangosai i lawer yn anorchfygol. Ar ol ugain munud o bregeth gorchymynodd i John Jones a John Williams weddio, ac yna canwyd,-

O Arglwydd dyro awel,
A honno'n awel gref;

Ar derfyn y canu parodd wacau y Sedd Fawr a gofyn i bawb a deimlai awydd ffoi rhag y llid a fydd' ddyfod ymlaen i'r sedd honno; eithr yr oedd ffrwyth yr oedfa yn fwy na ffydd y cennad, oblegid yn ddiymdroi aeth ymlaen fwy na llond y Sedd Fawr. Caed hanner cant tan wylo a gweddio yn dymuno derbyn yr Arglwydd Iesu ac ymuno â'r â'r eglwys.[2] Pregethodd yn Ystumtuen bob Saboth a phob nos waith am fis cyfan, ac yn ystod y dydd ymwelai â phersonau na fynychai'r cyrddau Gwnaeth waith mor effeithiol trwy'r ymweliadau hyn oni lwyddodd i gael pawb i'w wrando, a chyn iddo ymadael â'r lle dychwelwyd at grefydd yr holl wrandawyr ac eithrio pump. Yn ôl tystiolaeth Humphrey Jones ei hun ni chafwyd nerthoedd llawer mwy hyd yn oed yn America ac wedi hynny yn Nhre'rddol nag a gaed yn Ystumtuen. " Y mae bys Duw i'w weled yn amlwg ya yr oedfa hon. Achubwyd y dynion caletaf a mwyaf anobeithiol eu cyflwr yn yr ardal. . . Cafwyd rhai cyf-

  1. "Yr Herald Cymraeg," Medi 11, 1858.
  2. "Y Fwyell, Medi 1894, tud. 138.