Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arfodydd nas anghofir gan neb oedd yn bresennol. Ni welsom ni mo'r dylanwadau yn llawer cryfach yn America y gaeaf diwethaf, ynghanol y gwres mwyaf."[1] Ysgrifennai Mr. Jones ymhen tair wythnos wedi dechrau'r genhadaeth yn Ystumtuen, ac yr oedd rhif y dychweledigion yn 76 ar y pryd.

Newidiwyd gwedd foesol yr holl gymdogaeth. Diflannodd oerni a diffrwythder eglwysi Ystumtuen a Goginan a Phonterwyd, a chollwyd o blith y mwynwyr bob syniadau materol ac arferion anfoesol. Gweddiai pawb, a llenwid y mynyddoedd â mawl. Ymunai'r gweithwyr ar eu ffordd i'r gwaith ac yn ôl i weddio'n gyhoeddus ym môn y cloddiau ac ar lwybrau defaid; sefydlwyd hefyd gyrddau gweddi tan y ddaear, a chefnogai Capten Paul, goruchwyliwr y gwaith, y cyf- arfodydd ag aidd; pwrcasodd Feibl a llyfr emynau a chist i'w cadw, a phenododd bersonau cymwys yn llywyddion.[2]

Hyd yr adeg hon, ac am beth amser wedyn, ystyrid y Diwygiad yn rhyw fath o gynhyrfiad neu symudiad Wesleaidd, ac â chilwg rhai di-ffydd yr edrychai amryw weinidogion a swyddogion blaenllaw yr enwadau arno. Diystyrent y Diwygiwr oherwydd ei ieuenctid a'i ddull anarferol o weithio, ac amheuent werth y Diwygiad oherwydd ei ddyfod trwy enwad cymharol fach a dinod yng Nghymru. Eithr y Diwygiad a orfu, a daeth pawb o'r diystyrwyr yn Ystumtuen cyn diwedd y mis i gydnabod ei fod o Dduw ac nid o ddynion.[3]

Bu Humphrey Jones yn Ystumtuen am fis. Felly, gan iddo ddechrau yr ail Sadwrn yn Awst, y tebyg ydyw iddo ymadael yr ail ddydd Sadwrn ym Medi. Er nad oedd mwy na dau fis er dechrau'r Diwygiad, ac i'r Diwygiwr ei gyfyngu ei hun i Dre'rddol ac Ystumtuen, yr oedd y tân eisoes wedi llosgi trwy Fachynlleth ar ei union i Lanbrynmair, ac ar y chwith i Ddinas Mawddwy a Dolgellau. Gwnaeth y Parch. Isaac Jones

  1. "Yr Herald Cymraeg," Medi 11, 1858.
  2. "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 186.
  3. "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 185.