Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

waith gwerthfawr ynglŷn â'r Diwygiad ar Gylchdaith Dolgellau, fel y dysg Glanystwyth yn ei gofiant iddo;[1] ond yn nechrau Medi yr aeth Isaac Jones i Ddolgellau, ac yr oedd y tân wedi cyrraedd yno, ac i lawer man arall o'i flaen. Y ffaith ydyw, mai'r peth pwysicaf ynglŷn â phob diwygiad crefyddol mawr ydyw ei gychwyn; ar ôl ei gychwyn ymlêd ac ymestyn lawer yn ei nerth ei hun. Ceir enghraifft drawiadol o'r nodwedd hon yn yr hanes a ddyry'r Parch. John Thomas, D.D., o Gymanfa Dair Sirol yr Annibynwyr a gynhaliwyd yng Nghendl yn haf 1859.

"Yr oedd Mr. Rees yn bryderus iawn ynghylch y Gymanfa, ac ofnai iddi fyned heibio heb i effeithiau grymus ei dilyn. Yr oedd ynghyd nifer o frodyr o Aberdâr a mannau eraill lle yr oedd y diwygiad yn ei lawn rym; ac yr oedd yn awyddus am i'r gynhadledd gael ei chyflwyno mor llwyr ag yr oedd yn bosibl i wrando adroddiad y brodyr hynny am waith Duw yn eu plith. Ofnai yn fawr rhag i bethau amgylchiadol fyned â gormod o amser, ac erfyniai'n daer na byddai hynny. Cafwyd awr o'r ymddiddan mwyaf cynnes a gwresog a glywsom mewn cynhadledd erioed. Yr oedd gan y brodyr, Meistri Williams, Hirwaun, ac Edwards, Aberdar, a Davies, Aberaman, a Griffiths, Llanharan, ac Ellis, Mynyddislwyn, bethau rhyfedd i'w mynegi. Yr oedd yr olaf newydd ddychwelyd o'i ymweliad â sir Abertefi, lle yr oedd y diwygiad ar y pryd yn ei lawn rwysg. Cododd y gynhadledd ddisgwyliadau uchel yn y rhan fwyaf, fel y credent nad ai'r Gymanfa heibio heb adael effeithiau grymus ar ei hôl. Nid oedd dim yn neillduol yn yr odfaon y prynhawn na'r hwyr cyntaf, na'r oedfa saith bore trannoeth, er bod pob peth yn bur ddymunol. . . Ond yr oedd yn hawdd deall bod yr awyr yn llawn gwefr, a'r ffurfafen yn ddu gan gymylau. Buasai yn hawdd i ni ddarlunio yr oedfa ddeg y bore hwnnw yn helaeth a manwl, ond ni byddai hyny yn weddus. Dechreuwyd yr oedfa gan yr Hybarch. Isaac Harris, o'r

  1. "Bywyd y Parch. Isaac Jones," tud. 93.