Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Morfa, ac os aeth gweddi erioed i'r nefoedd aeth gweddi yr hen frawd o'r Morfa y bore hwnnw. Siaradai â Duw fel gŵr â'i gyfaill. Clywsom ef fwy nag unwaith, ond ni chlywsom ef erioed mor nodedig a'r bore hwnnw; ac er na thorrodd y cwmwl yr oedd y taranau i'w clywed o bell; yr oedd y bregeth gyntaf beth bynnag arall a ddywedir am dani, yn amserol iawn, "Ti a gyfodi ac a drugarhei wrth Seion; canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig a ddaeth; oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Yr oedd trwst llawer o law yn ymyl i'w glywed cyn y diwedd. Wedi i Mr. Stephens a Mr. Griffiths bregethu, cododd Mr. Hughes, Dowlais, i fyny i roddi anerchiad byr. Ni ddywedodd ond ychydig eiriau, ond yr oedd min ar y rhai hynny, ac yntau yn dweud mewn teimlad cyffrous; torrodd y cwmwl fel glaw taranau. Yr oedd yno ugeiniau yn gweiddi ar unwaith; daliodd Mr. Hughes i weiddi nes methu. Galwyd Mr. Jenkins, Bryn mawr, i derfynu trwy weddi, ond ni wnaeth hyny ond taflu olew ar y tân. Buont yno ar y maes am awr yn moliannu a gorfoleddu. Yr oedd Mr. Rees, er ei holl arafwch, wedi llwyr anghofio cyhoeddi yr oedfa ddilynol, a phob trefniadau gyda golwg ar y ciniaw i'r dieithriaid. Oedfa i'w chofio oedd honno gan bawb oedd yno."[1]

Nid yw hanes y Diwygiad yng Nghendl namyn engraifft o ugeiniau o ddigwyddiadau cyffelyb mewn mannau nad ymwelodd arweinwyr y Diwygiad â hwy o gwbl. Felly, o gysylltu Diwygiad '59 â dyn, a galw'r dyn hwnnw yn Ddiwygiwr, ei gysylltu a ddylid â Humphrey Jones fel cyfrwng ei gychwyn, ac nid ag Isaac Jones na Dafydd Morgan, Ysbyty.

Y tebyg ydyw mai erbyn yr ail Sul ym Medi yr aeth Humphrey Jones i Fynydd Bach, gerllaw Pont-ar-Fynach. Eithr aethai'r Diwygiad yno o'i flaen, wedi'i gludo gan bersonau a fuasai yng nghyrddau Ystum-

  1. "Cofiant y Parch. Thomas Rees, D.D., Abertawe," gan y Parch. J. Thomas. tud. 203, 204.