Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tuen. Bu'r Diwygiwr ym Mynydd Bach hyd ddiwedd y mis, a theimlwyd yr un dylanwadau nerthol ag a brof- wyd yn Nhre'rddol ac Ystumtuen. Yr oedd y tân a gludwyd ar draws Cwm Rheidiol wedi llosgi allan bob rhagfarn enwadol yng nghymdogaeth Pont-ar-Fynach, ac ymunodd Methodistiaid Trisant a Wesleaid Mynydd Bach yn ddiymdroi a chalonnog. Parhaodd y Diwygiwr y cynllun o weithio a ddewisasai ar gychwyn ei genhadaeth. Pregethai'n llym a chynhyrfus am bymtheg neu ugain munud, ac yna galw ar ddau neu dri i weddio, a pheri i bob un, trwy orchymyn pendant, weddio'n fyr a syml fel y gwnai ef ei hun. Deffrowyd yr eglwysi yn llwyr a chymhwyswyd hwy i goledd rhai newydd eu geni, a chyn diwedd y genhadaeth dychwelwyd at grefydd bob gwrandawr dibroffes a berthynai i'r ddau gapel.