Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII.
YM MHONTRHYDYGROES.

Ac eithrio Tre'rddol, lle dechreuodd y Diwygiad, ym Mhontrhydygroes y gwnaed y gwaith mwyaf a phwysicaf o bob man yng Nghymru, oblegid yno y gafaelodd nerth y Diwygiad ym mhersonoliaeth gref y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty.

I synio'n weddol gywir am bentref Pontrhydygroes a'i amgylchoedd, tybier ein bod yn cerdded i'r de o Bont-ar-Fynach ar y ffordd a deithiai'r myneich i Ystrad Fflur, fe ddeuem drwy Rhos-y-Gell, ac ar ben tair milltir oddi yno safem ar Fanc Ros-y-Rhiw, ac o ddisgyn yn raddol ryw dri chan troedfedd deuem at bont sy'n croesi afon Ystwyth. Hon yw Pont-rhyd-y-groes. Trwy y rhyd y cerddai'r pererinion cyntaf, ond adeiladwyd pont, ac yn ôl tyb rhai, yr oedd ar yr un cynllun a chyn hyned ag un gyntaf Pont-ar-Fynach. Un bwa uchel a chul ydoedd yr hen bont-rhy gul i lawer o ddim namyn dyn ac anifail fyned drosti; gwych o beth fyddai ei chael heddiw i adrodd wrthym am fedr a dycnwch yr hen oesoedd, ond er anfri i'r sawl a drefnodd y bont bresennol sy'n gyd-wastad â'r ffordd, dinistriwyd yr hen yn 1898 i wneuthur lle i'r newydd. Ni cheir gwell golwg ar yr ardal o unman nag o Fanc Rhos-y-Rhiw. Draw yn y dwfn odditanom y mae dyffryn Ystwyth yn rhedeg i'r de, ac yna'n troi i'r gorllewin gan frysio cyrraedd Pont Llanafan. Led cae mynydd ar y chwith i'r afon gwelir ffordd yn arwain at glwstwr tai a garia'r enw Pontrhydygroes, ac ar fryncyn dri chwarter milltir uwchlaw'r pentref y mae eglwys Esgobol Ysbyty Ystwyth. O amgylch ogylch ac ymhell, brithir y mynyddoedd gan dyddynnod hen. Nid yw pentref Ysbyty Ystwyth nepell o'r eglwys Esgobol. Lluniwyd ardal Pontrhydygroes o fryniau a phantiau a chymoedd a nentydd, ac awgrymir nodwedd ei har-