wynebedd gan enwau'r lleoedd, megis, Tan'rallt, Tangelli, Tanlefel, Tan-y-Graig; Pant'rhedyn, Pant-y-Ddafad, Pant-y-Ffynnon, Pant-y-craf; Gwarffordd, Gwarddôl; Pen-y-cwm, Pen-y-glog, Pen-y-graig; Banc- y-rhos, Banc Maen Arthur; Troed-y-rhiw, Glannant, Bwlch-y-blaen. Y mae pob enw yn sôn am rediad y tir. Gan gymaint bryniau â choed a phrysglwyni yn dringo o'u godre cyhyd ag y ceir daear i'w gwreiddiau, a chymoedd a nentydd gloyw yn llifo iddynt a thrwyddynt, y mae'r ardal yn brydferth anarferol yn yr haf; eithr yn y gaeaf, â'r rhew yn galed a'r eira yn drwch mawr, y mae—wel, ni waeth tewi; nid oes a'i disgrifia. Heb fod nepell o'r pentref y mae Hafod Uchtryd, plas nad oes yng Nghymru lenor o ddim pwys na ŵyr am dano,a thynn i'w weled bob haf gannoedd o ymwelwyr â thref Aberystwyth a mannau eraill. Yr oedd y plas unwaith, efallai ar y dechrau, yn eiddo'r Herbertiaid a ddaethai i'r gymdogaeth yn ystod teyrnasiad Elizabeth ynglŷn â gweithfeydd mwyn plwm yr ardal. Bu farw un William Herbert yn 1704, a phriododd Thomas Johnes, Llanfair Clydogau, ei ferch, a meddiannu'r lle. Symudodd Johnes o Lanfair Clydogau i Hafod Uchtryd yn 1783,ac yn dddiymdroi tynnodd i lawr yr hen dŷ ac adeiladu plas newydd a rhoddi ynddo ddarluniau gwych a llyfrgell fawr a gwerthfawr. Eithr ar y trydydd dydd ar ddeg o Fawrth, 1807, llosgwyd y plas yn lludw. Credir golli trwy'r tân gannoedd o hen lawysgrifau Cymreig gwerthfawr o gasgliad Syr John Seabright ac eraill; ac yr oedd y golled yn anffawd ddrwg i lenyddiaeth. Aeth Johnes ati ar unwaith i adeiladu eilwaith blas rhagorach, a rhoddi ynddo argraffwasg gyffelyb i'r argraffwasg sydd yn y Gregynnog yn awr, gan gyhoeddi argraffiadau o Froissant a Monstrelet ac eraill. Y mae'n debyg mai un o'r enw Chambers a breswyliai yn Hafod Uchtryd pan ymwelodd Humphrey Jones â'r ardal yn 1858.
Brithir holl fynyddoedd ardal Pontrhydygroes â phyllau a lefelydd y mwyn plwm, a chyn hyned ydyw rhai ohonynt fel na wyr neb eu hoedran. Cred amryw fod rhai o'r lefelydd o waith y Rhufeiniaid; adnabyddir