Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Morgan, Ysbyty, ynglŷn â'r Diwygiad; o hynny allan am tua dwy flynedd teithiodd yn amlder ei rym trwy Gymru a gweithiodd fel cawr ysbrydol." Y mae hanes Mr. David Morgan yn dyfod i mewn i'r Diwygiad mor bwysig fel na fyddai'n ddoeth gwneuthur llawer mwy nag aralleirio'r hanes a ddyry ei fab, y Parch. J. J. Morgan, yr Wyddgrug.

Yn 1858 yr oedd un Mr. Elis Roberts, gŵr o Ogledd. Cymru, yn ysgolfeistr ym Mhontrhydygroes, ac yn ei dŷ ef, ar gyfyl capel y Wesleaid, y lletyai Humphrey Jones. Parodd pregeth nos Wener flinder meddwl mawr i Ddafydd Morgan, teimlai nad oedd ef ei hun mwy na'r eglwysi nac oer na brwd. Ni allai orffwys y noson honno gan faint y deffro oedd yn ei gydwybod. Wedi hir ymboeni yn ei gartref, y Felin, a'r nos yn cerdded ymhell—ymhell yn y wlad,—am ddeg o'r gloch, teimlodd orfod arno ddychwelyd at y Diwygiwr ac ymgynghori ag ef. Llawenhai calon Humphrey Jones o'i ddyfod, oherwydd buasai'n gweddio a disgwyl o ddechrau'i genhadaeth yng Nghymru am gydweithiwr. Baich yr ymddiddan a fu rhyngddynt ydoedd cenadwri'r bregeth a draddodwyd yn y capel ychydig oriau'n gynt. Cyn ymadael, ebe Dafydd Morgan, "Fyddai hi yn niwed yn y byd i ni geisio deffroi eglwysi'r cylch yma, a chynnal cyfarfodydd gweddiau; 'rwy'n fodlon gwneud fy ngorau; wnawn ni ddim niwed drwy hynny, pe na bai ond dyn yn y cwbl yn y diwedd." Nid oedd Dafydd Morgan hyd yma wedi ei argyhoeddi fod "y peth hwn o Dduw."

"Gwnewch chi hyny," ebe Humphrey Jones, "a mi a'ch sicrhaf chi y bydd Duw gyda chi yn fuan iawn." Codai sicrwydd y Diwygiwr o'i ffydd, a'i brofiad mawr yn America, ac yng Nghymru wedi hynny. Aeth Dafydd Morgan i'w gartref, nid i orffwys a huno fel arfer, eithr i ofidio a gweddio. Dychwelodd drachefn a thrachefn ddydd Sadwrn i ymgynghori â Humphrey Jones, a chymaint oedd gwayw ei enaid fel na allai feddwl am bregethu fore Sul yn ôl y trefniant a oedd iddo. Pregethodd Mr. Jones ar ddymuniad y Methodistiaid, yng nghapel Ysbyty, fore Sul, Hydref 3, ar "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion."