Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Dafydd Morgan yn yr oedfa. Ar derfyn y bregeth, yn y gyfeillach, cwynai Mr. Jones fod yr awyr yn oer a throm, ac na roddasai neb iddo gymorth gymaint ag hyd yn oed Amen. Yna cododd John Jones, Penllyn, ar ei draed a dywedyd nad peth hawdd oedd i neb weiddi Amen a'r weinidogaeth yn ei gondemnio gymaint; wedyn methu a wnaeth, ymdagu a thorri i wylo a syrthio i'w sedd fel gŵr dinerth. O weled gŵr Penllyn, a oedd yn ddyn Duw a'i gadernid moesol yn wybyddus i bawb, yn plygu fel hynny, plygodd y gynulleidfa hithau ac wylo. Plygodd Dafydd Morgan, ac wylodd yntau. Llanwyd y lle â nerthoedd y Diwygiad. Dyma'r bore, Hydref y trydydd, yr eneiniwyd y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty, yn Ddafydd Morgan y Diwyg- iwr. Eithr ni theimlodd ei lanw â'r Ysbryd Glân am ddeuddydd arall. Aeth i orffwys nos Fawrth, Hydref y pumed, a chysgodd hyd bedwar o'r gloch a deffroi i deimlo ei fyned yn ei gwsg drwy ryw gyfnewidiad mawr a dieithr. "Deffroais," ebe fe, "yn cofio pob peth crefyddol a glywais ac a ddysgais erioed. Popeth a ddywedid wrthyf, mi a'i cofiwn." Dywedai Plennydd, "Aeth Dafydd Morgan i'w wely fel dyn arall a chododd yn y bore yn ddiwygiwr." Nid oes faes â llawer mwy o ddiddordeb ynddo i feddylegwr na hanes y dyn rhyfedd hwn.

Pa fath ar ddyn oedd Dafydd Morgan? Ateb parod y difeddwl a'r diwybod ydyw mai dyn cyffredin a phregethwr bach ydoedd. Rhy anodd yw cyfrif am gred gyndyn y Cymry mai arfer Duw hyd yn oed yng Nghymru ydyw defnyddio cyfryngau bach a dinod i wneuthur ei waith, ac yn arbennig, o bydd y gwaith yn un mawr. Y mae'n amheus a fedr Duw wneuthur unrhyw waith moesol mawr drwy eiddilwr; gwyddys na wnaeth felly yn y gorffennol ac na wna hynny yn awr. Eithr cred miloedd yng Nghymru fod yn rhaid iddo greu diwygiadau trwy bersonau dibwys a gwan i'r diben o ddangos ei fawredd ei hun. Dysgir weithiau mai dyna hanes diwygwyr Cymru i gyd; rhai bach bob un ydoedd Howel Harris, Humphrey Jones, Dafydd Morgan, Richard Owen ac Evan Roberts! Pa eglurhâd a roddir ar y