Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfeiliornad dybryd hwn a ddysg y gweithia Duw yn anghyson â natur ac yn anheilwng o hono'i hun? Dewis Duw yn ddieithriad y cymhwysaf i greu diwyg- iadau trwyddo, a'r cymhwysaf bob amser yw'r mwyaf. Dysg y sawl a adnabu Dafydd Morgan mai dyn o gorff cydnerth ag wyneb llewaidd ydoedd, ac fel y llew ar ei hamdden, yn dawel a bodlon; dyn na faliai ddim. pa mor gyflym y culiai oriau'r dydd na pha mor fuan y deuai nos. Un araf a hafaidd ac esmwyth arno yn Seion a phobman arall ydoedd Dafydd Morgan, eithr yn nyfnder ei bersonoliaeth yr oedd deunydd gwres ac ynni anarferol: O ran dealltwriaeth a diwylliant a gwybodaeth, ni ragorai Mr. Morgan ar bregethwyr cyffredin ei oes; yr oedd yn rhy amddifad o uchelgais heb sôn am allu, i fod yn bregethwr mawr; ond yr oedd yn bregethwr cymeradwy. O ran ei natur foesol rhagorai ar fwyafrif pregethwyr yr oes. Yr oedd yn y natur honno ddyfnder a golud arbennig, a phan ddisgynnodd iddi dân Duw gwnaed y dyn yn anorchfygol. "Y mae'r moesol yn llywodraeth Duw," ebe'r Doctor Cynddylan Jones, yn uwch na'r deallol; yn Nheyrnas Nefoedd y mae rhinwedd yn rhagori ar wybodaeth. Dilys mai dyma oedd cuddiad cryfder y Diwygiwr ; -meddu ar natur foesol nad oedd ei rhagorach, os ei chystal, yn neb o'i gydoeswyr. Tawel a digyffro ydoedd o flaen y Diwygiad; ond pan ddisgynnodd y tân o'r nef arno, cafodd ynddo gyflawnder o danwydd, a pharhaodd yntau i losgi a fflamio am dair blynedd, nes codi tymheredd ysbrydol Cymru o Gaergybi i Gaerdydd."[1] Yr oedd Dafydd Morgan yn ddyn mawr, ac yn ddigon mawr i wisgo ag urddas fantell Humphrey Jones. Daeth y ddau ddiwygiwr yn gyfeillion tynn; cydgerddent fraich ym mraich i'r moddion ac yn ôl, a threulient eu dyddiau naill ai yng nghwmni ei gilydd neu yn eu hystafelloedd yn gweddio. Dylifai'r bobl o bob cyfeiriad i gyrddau Pontrhydygroes ac Ysbyty Ystwyth, a gorlenwi'r capeli. Pregethai'r cenhadon, ac oni fyddai hwyl ar y pregethu, gweddient a pheri i

  1. Dafydd Morgan, a Diwygiad '59," tud. 597.