eraill weddio. Fel yn Niwygiad 1904, casglai Humphrey Jones y dychweledigion newydd at ei gilydd a pheri iddynt weddio y naill ar ol y llall, a throai yntau yn eu plith gan orfoleddu trwy ei amenau mawr a gwefreiddiol, ac ar brydiau codai'r llanw gymaint oni thorrid ar draws pob trefn, a gweddio o bawb gyda'i gilydd. Gwelwyd hefyd yn Niwygiad 1904 ambell un yn gosod y dychweledigion ar eu gliniau yn rhesi o'i flaen ac yntau yn eu harwain mewn gweddi neu ganu gan ysgogi'i gorff i'r dde a'r aswy a phawb o'r dychweledigion yn ysgogi fel yntau. Myn rhai nad oedd namyn dylanwad magnetaidd y dyn yn hyn oll; yr un dylanwad ag a oedd yn ysgydwad bys John Elias. Yn ddiamau, yr oedd peth gwir yn hyn, ac y mae'r peth yn gwbl gyfreithlon, oblegid ceir gorau dyn, pob rhan ohono, yn gystal a gorau Duw, ym mhob Diwygiad mawr. Cynyddu a wnai'r dylanwad yn gyflym a chyson. Llenwid y mynyddoedd â gweddio a mawl. Gadawai'r llafurwr ei orchwyl beunyddiol a chilio i gilfach i orfoleddu; torrai rhywun neu'i gilydd i weddio'n uchel ganol dydd neu'n hwyr y nos ar lechwedd agored a noeth; ymgasglai'r plant a weithiai ar wyneb y gwaith mwyn plwm i addoli mewn gorfoledd, a sefydlai'r mwynwyr gyfarfodydd gweddio tan y ddaear yn y Lefel Fawr a'r Frongoch, a gweithfeydd eraill.
Peth anarferol a gwerthfawr ydyw hanes y ddau Ddiwygiwr yn y tafarndy; praw hwn eu hyfder ysbrydol a nerth y Diwygiad. A'r ddau yn dychwelyd fraich ym mraich o gyfarfod gweddi yn Ysbyty Ystwyth y nos Sadwrn cyntaf yn Nhachwedd, 1858, a rhan o'r gynulleidfa yn eu dilyn, daeth gŵr i'w cyfarfod a dywedyd bod yn y Tymbl le annisgrifiadol ddifrifol, bod y tŷ yn llawn o feddwon yn rhegi ac yn ymladd yn arswydus. Nos Sadwrn y tâl ydoedd, a'r mwynwyr yn ôl eu harfer y pryd hwnnw, wedi gollwng i rysedd nwydwyllt. "Awn i lawr i'r dafarn," ebe Humphrey Jones wrth Ddafydd Morgan. Yr oedd y tŷ yn llawn i'r drws. Ymwthiwyd i mewn i ganol y cynnwrf a'r ymladd. O'u gweled safodd y tafarnwr, fel un wedi ei barlysu, ar ben grisiau'r seler â chwart o gwrw yn ei