Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

law. Gofynnodd Humphrey Jones yn foesgar am ganiatâd i weddio yn y tŷ. Cewch, cewch," ebe'r tafarnwr â braw yn ei wedd. Gweddiodd Humphrey â dylanwad anorchfygol ar ran y rhegwyr a'r meddwon, a gweddiodd Dafydd Morgan yntau â'r un dylanwad. Pan godasant o'u gweddio yr oedd y tŷ yn wag, ac eithrio un a oedd yn ddiymadferth gan ei feddwi, a'r tafarnwr yn sefyll o hyd ar ben grisiau'r seler â'r chwart cwrw fyth yn ei law. Oddi yno aed i'r Mason's Arms a chael bod eu harswyd wedi cyrraedd o'u blaen a gwacau'r tŷ. Yn nesaf aed i dafarn Nantyberws a chael yno'r tapiau'n sych a'r yfwyr wedi dianc. Pan alwyd wrth y Star, tafarn Ysbyty Ystwyth, caed y drws tan glo a'r teulu'n huno'n gynnar mewn tawelwch dieithr.

Newidiasai'r Diwygiad o ran un o'i nodweddion ers peth amser. Yn Nhre'rddol, ac wedyn, am yr wythnosau cyntaf, yn Ystumtuen, dwys a distaw ydoedd. "Nid oes yma sŵn. . . y mae yma ryw deimlad dwys a dwfn a distaw nes bod hen bobl yn llefain fel plant,"[1] ebe'r Parch. O. Thomas, pan ysgrifennai hanes y Diwygiad yn Nhalybont, pentref ddwy filltir o Dre'rddol. Dwg y Parch. Josiah Jones yntau dystiolaeth gyffelyb am nodweddion y Diwygiad ym Machynlleth[2] Eithr ym Mhontrhydygroes, ac am beth amser cyn hynny, yn Ystumtuen a Mynydd Bach, daethai'r gorfoleddu gwresog ac uchel a oedd mor amlwg yn Niwygiad Evan Roberts yn 1904, yn amlwg yn Niwygiad Humphrey Jones yntau. Yn dilyn tystiolaeth y Parch. Josiah Jones am nodwedd ddwys a distaw y Diwygiad ym Machynlleth, ceir eiddo Mr. Griffith Thomas, Aberystwyth, am y Diwygiad yno, yn yr un rhifyn o "Y Diwygiwr, Y mae'r Diwygiad wedi newid yn ddiweddar i nodwedd hwyliog a gwresog a thanllyd, torri allan i ddiolch a chanu hwyliog." Dyblid a threblid y canu, ac ar brydiau gweddiai ugeiniau gyda'i gilydd; llefai rhai yn uchel am drugaredd, a gorfoleddai eraill ar

  1. "Y Diwygiwr," Ebrill, 1895.
  2. "Y Diwygiwr," Mai, 1859