Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uchaf eu llais am y drugaredd a gawsant. Cynhelid cyfarfodydd ymhell i'r nos, a threuliai cannoedd oriau ar eu ffordd i'w cartrefi, a phawb yn gorfoleddu'n uchel. Peidiasai'r meddwi a'r rhegi a phob rhysedd arall yn ystod pythefnos gyntaf y genhadaeth, ac ni chlywid mwy namyn gweddio a moli ar aelwyd a mynydd. Ym mhentrefi bach Pontrhydygroes ac Ysbyty Ystwyth rhifai'r dychweledigion cyn diwedd Rhagfyr, 1858, tros ddau cant.

Daeth cenhadaeth y ddau Ddiwygiwr ym Mhontrhydygores i'w therfyn yr ail wythnos yn Nhachwedd, ac am y bythefnos nesaf cyd—weithiodd y ddau ym mhentrefi canolbarth Ceredigion. Yr oedd y maes a weithiai'r Diwygwyr yn hen gynefin â dylanwadau mawr ysbrydol, brithir ef hyd yn oed yn awr â llwybrau'r pererinion gynt o bob rhan o'r wlad i Fynachlog Ystrad Fflur. Meddylier am yr enwau hyn,—Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Ysbyty Cynfin, Rhydpererinion a Phontrhydfendigaid. Y mae gwraidd bywyd Ceredigion yn ddwfn yn naear traddodiadau crefyddol. Ymwelodd y Diwygwyr yn gyntaf â Phontrhydfendigaid, ddydd Mercher, Tachwedd 17, a chyneuwyd yno dân y Diwygiad. Dechreuwyd yn Nhregaron nos Lun, Tachwedd 22, yng nghapel y Wesleaid, ac wedyn ynghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Cychwynnwyd pethau mawr a rhyfedd yn yr hen dref hon, ac yn ddiweddarach llanwyd hi â gorfoledd dychweledigion. Caed oedfa ryfedd ym Mlaenpennal fore'r dydd Iau dilynol, —"Wylai Humphrey Jones oni fethai a pharhau i bregethu; wylai Dafydd Morgan yntau; wylai pawb ymron. Safai Dafydd Morgan yn y pulpud i geisio pregethu; ond pwy a allai bregethu i gawodydd o ddagrau? Yntau yn edrych ar nerthoedd y tragwyddol Ysbryd a weddnewidiwyd yngwydd y gynulleidfa, ac a floeddiodd fel un yn gweled y nef yn agored, "O, y Sheceina dwyfol." Cafwyd naw o ddychweledigion"[1] Cwsg â delw marwolaeth arno a gaed yng

  1. "Dafydd Morgan, a Diwygiad '59," tud. 66. Yr wyf yn ddyledus i'r Parch. J. J. Morgan am ddyddiadau a ffeithiau'r cyfarfodydd hyn.