nghymdogaeth Swyddffynnon, Nos Iau, Tachwedd 25, 1858. Arweiniodd Humphrey Jones y cyfarfod, a pheri i'r blaenoriaid weddio, y naill ar ôl y llall, ac yna pregethu oddiar Amos vi. 1; eithr ymhen ychydig funudau methodd arno gan ddiffyg eneiniad, a pharodd i'r un blaenoriaid weddio eilwaith. Nid oedd yno neb ond y blaenoriaid a fedrai ddim ar weddio'n gyhoeddus. Gafaelodd Humphrey Jones yn ei bregeth drachefn, ac yn y fan daeth i'r oedfa ddwyster a nerthoedd y Diwygiad. Pregethodd Mr. Morgan yntau un o'i bregethau mwyaf effeithiol oddiar Hosea vi. 9. Wedi hyn deffrodd Swyddffynnon yn llwyr a gwisgo gwisgoedd ei nerth a'i gogoniant. Oedfa galed a gafodd y Diwygwyr yn Llanafan; methwyd â gwneuthur dim, a throwyd adref yn ddigalon; eithr gwelodd Dafydd Morgan bethau annisgrifiol yno hefyd yn ddiweddarach.
Dyna ddiwedd ar gydweithio'r ddau Ddiwygiwr; ymwahanasant, ac ni wyddys y rheswm paham. Efallai, fel yr awgryma'r Parch. J. J. Morgan yn gynnil, y gwelai Humphrey Jones a weddiodd gymaint am gydweithiwr, fod nerth Dafydd Morgan yn cynyddu a'i nerth yntau'n lleihau, ac i hynny droi'n groes ry drom i'w chario. Eithr tebycach ydyw mai'r prif reswm ydoedd amhariad gieuol a effeithiwyd gan y dreth drom a roddwyd arno am yn agos i dair blynedd. Rhydd ei hanes ymhellach ymlaen esboniad ar lawer o bethau chwithig a wnaeth yn y tymor hwn. Yn ôl at ei enwad ei hun yr aeth Humphrey Jones, yn gyson â'i fwriad gwreiddiol. Treuliodd rai wythnosau yng Nghnwch Coch, a phregethu yng nghapel y Wesleaid a chapel Cynon (M.C.), bob yn ail noson. Bu ei genhadaeth yng Ngnwch Coch mor rymus ac effeithiol ag y bu yn unman o'r cychwyn. Nid oedd adeilad a ddaliai'r cynulleidfaoedd gan eu maint. Er hynny, tynnid y bobl wrth y cannoedd o ddyffryn a mynydd i weled a chlywed y Diwygiwr enwog; ac er bod yn y tywydd iâs gaeaf ar fynyddoedd uchel, ymdroai'r addolwyr ganol nos i gydweddio a chanu ar lwybrau'r defaid i'w cartrefi diarffordd.