Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII.
YR HAUL YN MACHLUD.

Ni bu unwaith gwmwl yn ffurfafen y Diwygiwr, ac ni chaed cloffni yn ei gerdded, am y cyfnod o tua thair blynedd. Cafodd ddydd llawn diwygiwr crefyddol Cymreig a theithiodd yn amlder ei rym. Eithr yn awr ymgasgl y cymylau a chollir y golau am ysbeidiau; daw naws gaeaf i'r hin, ac yn dawel ac esmwyth a diarwybod i'r wlad, tywyllir yr wybren a disgyn y cymylau yn isel, a chollir y Diwygiwr mewn nos hir.

Buasai galw mawr ers tro ar Humphrey Jones i Aberystwyth, a rhoddasai yntau ei fryd ar fyned yno gan ddisgwyl pethau mwy yn y dref nag a gawsai yn unman. Hyd yma llafuriasai mewn mân bentrefi ac ar y mynyddoedd; ond yn y dref yr oedd rhai miloedd o drigolion a chapeli mawrion; eithr prif sail ei ddisgwyl am y pethau mwy ydoedd y ffaith fod y Diwygiad eisoes i fesur da wedi effeithio ar yr eglwysi a channoedd o bechaduriaid wedi eu dychwelyd at grefydd. Ni lwyddodd hyd yn oed tân y Diwygiad i losgi ffiniau enwad, anaml y gwna hynny, a phan gyrhaeddodd Humphrey Jones Aberystwyth erbyn y Sul olaf ond un yn Rhagfyr, 1858, i gapel y Wesleaid, yn Queen Street, yr aeth i wasanaethu. Gweinidogion y Gylchdaith ar y pryd oedd y Parchedigion William Rowlands (Gwilym Llŷn) a Henry Parry. Yr oedd enwogrwydd y Diwygiwr mor fawr oherwydd y pethau annisgrifiol a wnaethpwyd trwyddo, a ffydd pawb ynddo gymaint, fel yr ymddiriedodd Gwilym Llyn drefnu'r gwaith i Humphrey Jones. Newidiodd yntau'i gynllun arferol a threfnodd gynnal cyrddau gweddio yn unig; ym mhob man arall, o gychwyn y Diwygiad, pregethai'n fyr a galw ar flaenoriaid i weddio, eithr yn y dref ni phregethai o gwbl. Ei reol o'r cychwyn ydoedd "pregethu pregethau llym i'r eglwys yn gyntaf; ymdrechu at ddeffroi Seion,. . . . ni