Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bydd fawr lles heb gael Seion o'i chwsg."[1] Dyma'r arwydd amlwg cyntaf o anghysondeb yn y Diwygiwr. Dysgai fod Eglwys Queen Street mewn trymgwsg ac yn anaddas i dderbyn a magu dychweledigion, ac nad oedd fodd i'w deffroi namyn gweddio am dywalltiad mwy o'r Ysbryd Glân; ni thalai pregethu iddi bregethau llym fel y gwnaethai mewn lleoedd eraill. Yr adeg hon, ar fore Sul, cyfarfu ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, ag ef ar ben Rhiw Glais, ac ebe ef mewn llais â'i lond o siom, "Wn i ddim beth ddaw o honof yn y dre'. Y maent yn galed iawn."[2] Eithr tystiolaeth y Parch. Henry Parry a oedd ar Gylchdaith Aberystwyth ar y pryd ydoedd," Yr oedd yr eglwys honno cystal ag unrhyw un trwy'r wlad, a llenwid y capel bob nos."[1] Llafuriodd y Diwygiwr yn Aberystwyth am rai misoedd, -chwe mis, ebe ef ei hun; eithr nid oes hanes iddo bregethu unwaith; cynhelid cyrddau gweddio ar y Saboth a phob nos o'r wythnos, a chodai'r gwres ysbrydol yn uchel am yr wythnosau cyntaf. Tystia rhai hynafgwyr a gofia'r Diwygiad ac a deimlodd ei rym mewn mannau eraill na chaed nerthoedd mwy yn unman nag a gafwyd yng nghyrddau gweddi capel Queen Street yn ystod yr wythnosau cyntaf. Crefai ugeiniau'n daer am eu derbyn yn aelodau, eithr gwrthodai'r Diwygiwr hwy am y daliai'n dynn nad oedd yr eglwys yn addas i'w coledd. Bob yn ychydig lleihaodd gwres y cyfarfodydd oni pheidiodd yn llwyr. Derbynnid aelodau newydd wrth y cannoedd yn eglwysi eraill y dref, ond methodd gan hen grefyddwyr eglwys y Wesleaid weddio, a pheidiodd y canu. Dywaid Humphrey Jones ei hun, "Yn Aberystwyth arhosais chwe mis yn cynnal cyfarfodydd diwygiadol, cyfarfodydd gweddi yn fwyaf neilltuol. Dychwelwyd yno yr amser hwnnw at y Methodistiaid Calfinaidd o bump i chwe chant; at y Bedyddwyr tua chant ac ugain; at y Wesleaid, bach a

mawr, Cymraeg a Saesneg, cant ond tri; at yr Annibyn-

  1. 1.0 1.1 "Y Fwyell," Tachwedd, 1894. tud. 222.
  2. Cofiant Dafydd Morgan a Diwygiad '59," tud.22