Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyr, hanner cant; ac at Eglwys Loegr, yn ôl fel yr ysgrifennodd y Ficer Hughes ataf, gant a phymtheg ar hugain."[1] Fe'i cyfyngai ef ei hun i'w lety a'r cyfarfodydd; nid ymwelai, yn ôl ei arfer mewn mannau eraill, â chartrefi'r annychweledig i ymbil â hwy, ac ni phregethai yn yr eglwys. Tystiolaeth unol hen grefyddwyr yn Aberystwyth sy'n cofio'r Diwygiad ydyw, i'r cynllun newydd a dieithr beri niwed mawr i Wesleaeth yn y dref, ac yn enwedig i eglwys Queen Street.

Ysgrifennodd y Parch. William Rowlands (Gwilym Llŷn), Ebrill 7, 1859,[2] fod rhif aelodau Cylchdaith Aberystwyth yn 1308, yn cynnwys cynnydd o 655 trwy genhadaeth Humphrey Jones. Dyma gynnydd un enwad, mewn cylch bach, yn ystod wyth mis. Dyn manwl a chrintachlyd, cynnil a chas ei eiriau, oedd Gwilym Llŷn, ac nid oedd berygl iddo roddi ar ddim bris uwch na'i werth. Eithr credai fod Humphrey Jones a'r Diwygiad o Dduw. Wrth sôn am nodweddion anarferol y cyfarfodydd dywaid, "Y mae gweled pethau felly yn well na'r marweidd—dra disymud a oedd yn teyrnasu dros ein gwersylloedd y blynyddoedd diweddaf Beth a feddyliwch am bethau fel yma,—onid ydynt yn nodweddion boddhaol?"[3]

Y mae'n amlwg oddi wrth lythyr calonnog Gwilym Llŷn nad oedd yn nechrau Ebrill braw eglur o drai yn nylanwad y Diwygiwr; priodolid y diffyg llwyddiant yn eglwys Queen Street i'r cynllun o weithio yn bennaf. Eithr yn gynnar ym Mehefin, 1859, cafodd y sawl a gymdeithasai fwyaf â Humphrey Jones resymau tros amau cydbwysedd ei feddwl; nid oedd fel cynt. Llethid ef gan bryder ac ofnau ar brydiau, ac yn raddol aeth i'w ysbryd brudd-der trwm; ond ar adegau eraill ymwrolai ac ymlonnai, a chyhoeddai fod y wawr ar dorri, ac y ceid yn fuan ddydd yng Nghymru na welwyd erioed ei gyffelyb. Honnai y derbyniai'n gyson ddatguddiadau

  1. "Cofiant Dafydd Morgan a Diwygiad '59." tud. 22.
  2. "Yr Eurgrawn Wesleaidd," 1859. tud. 210.
  3. Yr oedd eglwysi presennol Cylchdaith Ystumtuen yng Nghylchdaith Aberystwyth hyd 1861.