Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddi wrth Dduw, nid yn unig ynglŷn â bywyd Cymru, ond ynglŷn â bywyd Prydain a gwledydd y Cyfandir hefyd. Yn raddol aeth i gredu ei fod yn broffwyd, a chyhoeddai bethau a ymddengys i ni o'r pellter yn anhygoel; eithr credai miloedd yn ei allu proffwydol oherwydd y gweithredoedd nerthol a wnaethai Duw trwyddo yn ystod y tair blynedd blaenorol yn America a Chymru. Rywbryd ym Mehefin cyhoeddodd fod nos foesol y ddaear yn dyfod i'w therfyn ac y gwelid yr Ysbryd Glân yn disgyn am un ar ddeg o'r gloch ar fore dydd arbennig a enwai, ac ar yr awr honno y dechreuai'r Mil Blynyddoedd. Credai pawb o'r werin ei dystiolaeth, a thynnodd cannoedd o bobl y wlad yn fore i'r dref. Gwibient drwy'r heolydd ac ar draws ei gilydd â braw, fel braw byd a ddaw, yn eu hysbryd a'u gwedd. Llanwyd capel Queen Street â thyrfa fawr a oedd tan ofn a'u llethai yn disgwyl y weledigaeth wyrthiol. Yr oedd Humphrey Jones â'i ffydd yn ei broffwydoliaeth yn ddisigi, ar ei liniau yn y sedd fawr yn disgwyl yr awr anfeidrol ei golud," ac ar drawiad un ar ddeg llefodd a'i ddwylo i fyny, "Mae E'n dyfod! Mae E'n dyfod!" Daeth yr awr, eithr ni ddaeth y wyrth. Torrodd y Diwygiwr ei galon ac wylodd yn chwerw ac uchel. Ciliodd i'w lety a'r nos, ac ni welwyd ef yn hir, hir, wedyn. Ni ddaeth iddo ddydd llawn byth mwy. A'i ffydd yn gref yn Humphrey Jones fel gŵr Duw wedi ei anfon i wneuthur gorchestion ysbrydol, ni fynnai Gwilym Llŷn gredu bod dydd y Diwygiwr ar ben, ac ni fynnai'r Diwygiwr yntau hynny. Eithr nid oedd fodd i'w gael o'i neilltuaeth i'r cyhoedd oherwydd y credai fod yn rhaid iddo aros hyd amser neilltuol Duw.