Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IX.
LLYTHYRAU'R DIWYGIWR.[1]

Defnyddiwyd pob rheswm a dyfais gyfreithlon i gael y Diwygiwr at ei waith eilwaith, ond nid i ddim pwrpas. Ysgrifennodd Gwilym Llŷn at y diweddar Mr. D. Delta Davies, Aberdâr, ar y pryd, a oedd yn gyfaill mawr i Humphrey Jones i geisio ganddo ddarbwyllo'r Diwygiwr i adael ei lety ac ymafael yn ei waith drachefn. Oherwydd prinder amser methodd gan Mr. Davies ymweled ag Aberystwyth, ond bu'r ddau'n gohebu â'i gilydd yn hir, a dengys rhai o lythyrau'r Diwygiwr gyflwr ei feddwl yn nhir neilltuaeth.

Ysgrifennwyd y cyntaf o'r llythyrau ym Mehefin, 1859, a'r olaf ym Mehefin, 1860. Rhoddir hwynt yn y bennod hon yn gyflawn, air am air, fel yr aethant o law Humphrey Jones.

Aberystwyth.
Mehefin 29, '59.

Anwyl Frawd,

Derbyniais lythyr oddiwrthych ers rhai misoedd yn ôl, ac yr oeddwn yn meddwl ei ateb yn uniongyrchol; ond digwyddodd i mi ei golli yn yr adeg hono, felly ni wyddwn mo'ch cyfeiriad; ond ddoe fel yr oeddwn yn ymddiddan ag un o'r cyfeillion am danoch, dywedodd wrthyf fel secrat, fod eich Direction gyda Miss Jane Rowlands, a thrwy hyny mi a'i cefais.

Ond i ddychwelyd at y pwnc. Y mae fy mhrofiad i yn berffaith yr un fath a'ch profiad chwithau. Y mae treio gosod allan fy mhrofiad yn amhosibl. Nid oes iaith mewn bod a fedr osod allan fy nhrallodion am chwe mis. Bum bron a marw ugeiniau o weithiau, a buasai yn dda gennyf gael marw yn yr adegau hyn. Yr oedd meddwl am bob peth yn rhwygo fy nghalon; yr oedd y pethau melusaf yn chwerwach nag angau. Yr oedd adgofio am fy llwyddiant blaenorol yn fy llethu yn lân;

  1. Y mae yn fy meddiant wyth o lythyrau'r Parch. Humphrey Jones a gyflwynwyd i mi gan Mr. David Delta Davies ychydig cyn ei farw.