ond rhwng yr adegau chwerw yna byddwn yn teimlo yn galonog a dedwydd, ond eto yn analluog i wneud dim byd. Ceisio gweddio, ond yn methu gwneud dim byd o honi. Ceisio cyngori, ond yn gorfod eistedd i lawr. Ond er Sabboth tair wythnos i'r diweddaf y mae cyfnewidiad aruthrol wedi cymeryd lle yn mhawb o honom. Cyn hyny yr oedd ein cyrff yn darfod bron i'r dim gan drallod ein meddwl. Yr oeddym wedi myned mor nervous fel yr oedd y swn lleiaf yn ein dychrynu. Yr oeddwn i wedi mynd yn neilltuol o wan; yr oeddwn wedi colli fy stomach bron yn hollol. Ond er y pryd hwnw y mae fy nghorff yn cryfhau, ac yr wyf yn mynd yn fwy stout yn barhaus. Nid wyf yn fwy galluog i wneud dim yn awr nag oeddwn o'r blaen. Y mae fy nhafod yr un mor gloedig, y mae fy nghof llawn mor ddrwg: y mae holl alluoedd fy meddwl yr un mor bŵl a thywyll. Yr wyf fel ac yr wyf yn bresennol yn berffaith annefnyddiol a diles i bawb.
Ond bendigedig fyddo yr Arglwydd, y mae genyf sicrwydd yn fy mynwes y deuaf allan cyn bo hir. Yr wyf yn gwybod pan y deuaf y byddaf gan mil o raddau yn fwy defnyddiol nac erioed. Ni fuodd yr un gradd o amheuaeth yn fy meddwl o'r fynyd gyntaf y methais bregethu hyd y fynyd bresenol na ofale yr Arglwydd i'm cael i allan yn ogoneddus yn y pen draw. Dyna yr unig beth oedd yn fy nal i fyny rhag myned i anobaith. Y mae yr eglwys hon bron i gyd wedi myned yr un fath a mi, ond fy mod i wedi myned yn ddyfnach. Y mae Jane Rowlands wedi myned iddi ym mhell iawn, yn mhellach nag y mae hi yn feddwl. Y mae argraff ar fy meddwl er amser maith y byddwch chwi yn cael eich gollwng yn rhydd yr un pryd ar eglwys hon a minau. Byddwch gystal ag anfon atebiad i'r llythyr hwn, a charwn gael gwybod state eich meddwl y dyddiau hyn, ac yn fy llythyr nesaf mi anfonaf esboniad ar y cyfan. Y mae yr Arglwydd yn ddiweddar wedi egluro y cyfan i mi, fel yr wyf yn deall natur yr oruchwyliaeth ryfedd a doeth hon.
Hyn yn fyr oddiwrth eich cywir frawd,
Humphrey Jones.