Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Aberystwyth,
Gorff. 19, '59.

Anwyl Frawd,

Derbyniais eich llythyr ac yr oedd yn llawenydd neillduol genyf glywed oddiwrthych a gweled yn eich llythyr hwn eto fod eich profiad yn cyd-daro yn hollol a'm profiad i a'r cyfeillion. Darllenais eich llythyr i rai o'r brodyr, ac yr oeddynt yn credu fod rhywun wedi anfon ein hanes ni i chwi neu eich bod chwi yna yn yr un oruchwyliaeth ryfedd a ninau. Gyda golwg ar y dideimladrwydd, syrthni, a'r cysgadrwydd sydd wedi eich dal, felly y mae wedi ein dal ninau, fel y mae amryw o'r cyfeillion yn credu eu bod wedi myned yn waeth yn lle myned yn well. Y mae holl ddyledswyddau dirgelaidd a chyhoeddus crefydd wedi myned yn ddiflas ac yn faich. Beth a all fod yr achos o hyn sydd yn dywyll i lawer. Y mae rhai yn credu fel y chwithau ein bod ni wedi disgwyl gormod wrth yr Arglwydd a thrwy hyny dristau y dylanwadau a cholli "amser ein hymweliad." Ond y mae eraill y rhai sydd yn deall natur y Diwygiad yn gwybod yn amgenach. Y mae rhai yn meddwl fod y Diwygiad ar ben ac nad oes dim i ddisgwyl yn y tymor hwn, ac y mae eraill yn credu nad yw y Diwygiad ddim ond dechrau, fod y pethau goraf a mwyaf gogoneddus yn ol. Gyda golwg ar ddisgwyl gormod wrth yr Arglwydd, 'dall hyny ddim bod, oblegid fe weithiodd pawb o honom nes darfu i ni fethu yn hollol. Nid oes yma un blaenor a gweddiwr cyhoeddus na ddarfu iddynt fethu "lawer gwaith, ond ers ychydig fisoedd yn ol fe gyfnewidiodd yr Oruchwyliaeth, fel y maent yn gallu symud yn mlaen yn weddol, a gweddol yw hi hefyd, oblegid nid oes dim dylanwad mewn dim. Yr oedd llawer mwy o ddylanwad pan yn methu ar haner eu gweddiau, nac sydd yn awr. Wel, meddwch chwi, y mae y Diwygiad ar ben. Nag ydyw, nag ydyw, y mae y Diwygiad neu yr Oruchwyliaeth yn myned yn mlaen ac yn dyfnhau o hyd, nid yw hi ddim byd ond ei bod hi wedi cyfnewid fel y mae hi wedi myned yn fwy sych,