digysur a dryslyd. Y mae yr Arglwydd wedi atal y dylanwadau cysurol ac effeithiol fel y mae yr Oruchwyliaeth yn awr yn myned ymlaen drwy chwerwdod, sychder a siomedigaethau. Ond ni a adawn y cyfan gan y cewch chwi esboniad ar bob peth yn fuan. Gyda golwg ar y sobrwydd mawr, neu yr arswyd, sydd yn eich dal, felly y mae ef yn ein dal ninau, yn neillduol y nos o ddeg o'r gloch hyd ddau o'r gloch y boreu. Y mae pob peth yn dweud ein bod ni yn yr un Oruchwyliaeth. Yr oeddych hefyd yn crybwyll eich bod chwi yn ofni na chewch chwi ddim bod o wasanaeth i'r Arglwydd ddim rhagor, felly y bum inau yn ofni ar lawer adeg, ac yn gweled fy hun yn hollol anfuddiol; ond yn awr yr wyf yn gwybod y byddaf fi ddeg mil mwy o wasanaeth i'r Arglwydd nac y bum erioed, yr wyf yn sicr y dychwelir cant am bob un a ddychwelwyd o'r blaen, a chan wired ac y caf fi fod fe gewch chwithau fod, oblegid yr ydym yn yr un tywydd a threualon. Nid yw eich bod chwi yn credu na chewch chwi ddim bod o wasanaeth i'r Arglwydd yn rhagor ddim ond gwaith y gelyn i gyd; mi dybiwch eich bod chwi wedi tristau ei Ysbryd sanctaidd a mygu ei ddylanwadau. A ydych chwi yn meddwl fod eich Tad nefol am eich taflu megys peth ysgymunedig am weddill eich oes, oblegid anufudd-dod ychydig fisoedd ? A ydych chwi yn meddwl na wnai yr Arglwydd faddeu i chwi ar eich edifeirwch? Na, y mae y peth yn hollol afresymol ac anysgrythyrol. Onid yw yr Arglwydd yn mhob oes o'r byd wedi gwneud y Rakes penaf yn y byd yn ddefnyddiol drosto, ai tybed na faddeu ef i'w blant os byddant wedi colli eu lle gan ei fod yn codi gelynion i'r fath anrhydedd? Nid yw yr Arglwydd ddim yn edrych ar ymddygiad blaenorol neb, ond yn cymeradwyo neu yn anghymeradwyo pawb wrth fel y maent yn bresenol. Yr achos fod y gelyn yn eich perswadio i gredu hyn yw eich bod yn cael y fath olwg gyffrous ar eich gwendid a'ch anheilyngdod mawr. Gwn i am bedwar o bregethwyr heblaw y chwi a finau wedi myned i'r un oruchwyliaeth a ni, ac y mae y rhai hyny ar lawer adeg yn credu na fyddant o ddim defnydd i eraill yn y dyfodol.