Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O.N.-Y mae Mr. Rowlands[1] yn bwriadu, yr wyf yn deall, dyfod i lawr i Merthyr. Y mae yn debig na fedr- wch chwi ddim arllwys eich meddwl iddo ef, oblegid nid yw ef ddim yn deall Natur y Diwygiad hwn er ei fod ef wedi myned iddo i raddau pell. Yr wyf fi yn meddwl. mwy ohono yn bresenol na'r un gweinidog o fewn y sir.

49, Terrace,
Aberystwyth.
Hyd. 25, 1859.

Anwyl Frawd,

Derbyniais eich dau lythyr yn brydlawn, ac wele fi yn ateb y diweddaf yn ebrwydd. Bum yn meddwl. ateb y cyntaf dechreu wythnos diweddaf, ond rhywfodd mi oedais hyd yn hyn. Gyda golwg ar y cyngorion a'r addysgiadau a roddais i chwi, ni raid i chwi grybwyll am danynt, buaswn yn gwneuthur deng mil mwy na hyny i chwi pe bai achos. Gyda golwg ar fy nyfodiad yna y mae y peth yn amhosibl yn bresenol, pe bai y cyfeillion yma yn foddlawn i mi ddod, ni chymerwn i lawer a chychwyn, oblegid yr wyf yn rhi nervous ac ofnus i fyned i un man fel ag yr wyf yn bresenol. Rhaid i mi ddyfod o'r caethiwed hwn cyn y byddaf o ddim defnydd i neb, pe buaswn yn alluog i wneuthur rhywbeth gallaswn wneuthur yma yn rhwyddach nag un man arall, oblegid y mae yr eglwys hon bron yn ddieithriad yn yr un cyflwr a minau.

Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar i chwi am eich gwahoddiad taer; ond trwy fy mod i yn adnabod fy ngwendid fy hun yn well na neb arall, felly rhaid i mi fod yn dawel ac amyneddgar am ychydig amser eto.

Y mae yn hawdd gennyf gredu eich bod chwi yn teimlo yn hynod o ofnus a chrynedig wrth feddwl preg- ethu y Sabboth diweddaf, ond y mae genyf un newydd da, ie da iawn o lawenydd mawr, i chwi a minau, sef y cawn ni hollol waredigaeth oddiwrth y cryndod a'r

  1. Y Parch. William Rowlands (Gwilym Llŷn).