Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

caethiwed poenus yma pan waredir ni o'r sefyllfa hon. Ni fydd gwynebau dynion yn effeithio dim mwy arnom ni nag ar y graig gallestr; oblegid yr wyf yn sicr os misoedd bellach mai yn perthyn i'r Oruchwyliaeth chwerw a doeth hon y mae y cryndod a'r gwendid hwn ; a phan ddown ni allan ohoni y gwnaiff yr Arglwydd ni (er mai prif Jacob ydym yn bresenol) yn fen-ddyrnu newydd ddaneddog; ac y dywed ef wrthym er mor anheilwng a gwan ydym, "Y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y brynian fel mwlwg."

Yn awr terfynaf gan ddweud gair neu ddau yn gyfrinachol, a byddwch cystal a chadw y cyfan hyd nes y cymer y peth le. (1). Y mae adeg amser ein gwaredigaeth bron a gwawrio. Nid oes ond ychydig o wythnosau eto. Y mae llygaid ugeiniau o honom ar yr un adeg. (2.) Y mae yr arwyddion sydd i flaenori toriad y wawr, wedi ymaflyd yn y rhan fwyaf o honom er y wythnos diweddaf. Cewch wybodaeth fanylach yn y llythyr nesaf.

Dywedwch wrth Mr. Jenkins fod y Darlun yn fy meddiant, ond ei fod ef gartref yn fy mox o dan glo ac ni fum yno er pan anfonasoch ataf yn ei gylch.

Carwn i chwi ofyn mwy o gwestiynau, oblegid yr wyf yn sicr nag ydych chwi ddim yn fwy isel a digalon nag wyf finau ar droion. Yr oedd gweled hanes ffoedigaeth y Pab yn llawenydd genyf, ond fe fydd deng myrdd mwy o gyffro na fuodd ym mhen ychydig wythnosau neu fisoedd.

Hyn yn fyr oddiwrth eich cywir frawd,

Humphy. R. Jones.[1].

  1. Ychwanegodd yr 'R' at ei enw yn America