Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid wyf fi ddim yn meddwl y bydd eisieu dim arnaf rhagor cyn y daw y Deffroad mawr. Yr amser yr ydym ni yn ddisgwyl i'r wawr dori ydyw mis Ionawr nesaf. At y mis hwnw y mae llygaid pawb o honom.

Yr oeddych yn son yn eich llythyr y byddai yn well i mi dreio pregethu. Rhaid i mi eich hysbysu frawd, na fedraf fi ddim cymmaint a darllen adnod a gweddio dwsin o eiriau yn gyhoeddus. Y mae caethiwed ac atalfa yn myned arnaf ar unwaith. Yr wyf yn myned yn waeth o hyd, er fod fy nghorff yn cryfhau y mae fy meddwl a'm lleferydd yn myned yn gaethach yn barhaus. Oni bai fy mod i yn deall y dirgelwch a'r dryswch hwn, byddwn wedi myned i an- obaith a digalondid gormodol; ond trwy fod yr Ar- glwydd yn cadw fy meddwl yn oleu berffaith ar y pwynt yma yr wyf yn teimlo yn hynod o galonog wrth edrych yn mlaen.

Nid oes genyf ddim byd neillduol i'ch hysbysu.

Yr eiddoch ar frys,

Hump. R. Jones.

O.Y.-Y mae yn orfoledd genyf eich hysbysu fy mod i yn teimlo yn hynod o ddedwydd a chalonog y dyddiau hyn. Yr wyf wedi dyfod i wybod am amryw bregeth- wyr yn ddiweddar y rhai sydd yr un fath a mi, wedi methu ; ond pe na byddai neb drwy yr holl fyd ond y fi yn unig yn y cyflwr hwn, yr wyf mor sicr fy mod i ar ganol y ffordd â bod Duw yn Bod.

49, Terrace,
Aberystwyth.
Ebrill 4, '60.

Anwylaf Frawd,

Daeth eich llythyr i law yn brydlawn, ac wele fi yn ei ateb yn ol eich dymuniad gyda brys. Yr oeddwn wedi hir ddisgwyl am lythyr oddiwrthych; ac yr oeddwn