yn barnu yn y modd mwyaf brawdol yn nghylch y gohiriad, a phan ddaeth eich llythyr i law gwelais fod fy marn yn gywir. Gyda golwg ar eich anhwylder corfforol y mae ef yn beth cyffredin iawn yn y dref hon. Yr achos o'r poen dirfawr yna yn eich pen ydyw gwendid eich nerves. Gwn i am laweroedd sydd wedi bod yn ddiweddar bron a drysu gan gur dirfawr yn eu penau. Nid oes yma odid neb yn y dref nad ydynt yn cael eu blino a hyny yn aml gan yr anhwyldeb yna. Siaradwch chwi â phwy a fynoch yr un yw eu cwyn. Y mae yn hawdd genyf eich credu fod ysgrifenu ataf fi neu ryw un arall yn faich trwm ar eich meddwl. Y mae pethau bach cyffelyb i hynyna yn feichiau trymion. iawn ar fy meddwl inau.
Gyda golwg eich bod yn teimlo yn sych, galed, a diafael, wrth weddio, yr wyf finau felly, a phob un a siaradwyf ag ef. Yr wyf os misoedd yn awr yn methu a gweddio i ddim pwrpas. Y mae pob gair yn sych fel pe bawn yn curo yr awyr. Nid yn unig y mae rhai yn cwyno hynyna, ond dyna gwyn pawb a wnelwyf ac y siaradwyf â nhw. Y maent yn methu a dirnad beth yw y mater. Y mae gweddio yn ddirgelaidd neu gyhoeddus yn faich trwm, ic, trwm iawn arnynt. Y rhai sydd wedi bod yn fwyaf nodedig gyda'r Diwygiad yw y rhai sydd yn cwyno fwyaf. Y mae hyna yn eu gofidio nhw ar droion nes y maent bron a myned i anobaith a digalondid perffaith. Beth all y digalondid yr anesmwythder a'r gofid mawr, ie, anrhaethol fawr hwn, fod? Nid yw ef ddim byd ond Rhagredegydd a Rhagbaratoad chwerw i'r Cyfnod Gogoneddus sydd wrth y drws, ac y mae ef yn cael ei nodi gan Daniel ac Ioan mor oleu a'r haul." Yna y bydd amser blinder y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnw." Dan. i. 2. "Ac yr oedd lleisiau, a tharanau a mellt; ac yr oedd daear- gryn mawr, y fath ni bu ar pan yw dynion ar y ddaear." Dat. 16. 17-21.
Frawd anwyl, ni welsoch chwi erioed mor ofidus mai pob dyn a dynes sydd yn yr amgylchoedd hyn. Y mae trallod eu meddwl a phoenau eu corff yn ormod i iaith ei osod allan. Mi wn i am ugeiniau y buasai yn dda