Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganddynt yn aml gael marw gan faint eu trallod. Yr oeddwn yn siarad ag un o'r Methodistiaid Calfinaidd os tua awr yn ol; O! O! mor isel a digalon oedd ef. Yr wyf fi yn credu nad oes neb ar y ddaear mor ofidus ag ef. Nid wyf fi yn gwybod fy mod i yn euog o'r un pechod," meddai ef, "ac eto yr wyf mor ofidus ac anesmwyth a phe byddwn yn euog o bob pechod."

Yr oeddwn i yn cael llythyr oddiwrth Offeiriad Eglwys Loegr y bythefnos ddiweddaf; ac O! mor isel oedd ei deimlad ef. Y mae ef wedi myned yn rhi wan a nervous i allu pregethu, ac nis gwyr ef yn y byd beth a all fod arno. Yr wyf yn cael llythyrau o bob cyfeiriad a'r un gwyn sydd gan bawb.

Y mae y brawd David Morgans, Ysbytty, wedi myned yn wan a nervous iawn. Y mae y dylanwad mawr oedd yn cydfyned a'i weinidgoaeth wedi cilio yn hollol. Bu yn ymweled a mi wythnos diweddaf. Y mae ef wedi cyfnewid yn ei wedd yn neillduol. Y mae ef yn edrych yn synllyd, sobr, dieithr a digalon iawn. Yr oedd ef yn dweud,"Ni wyddwn i ddim beth oedd. arnoch y gaeaf diweddaf, ond y gaeaf hwn gallaf gydymdeimlo â chwi i'r byw. Y mae y pethau bach lleiaf yn ymddangos fel mynyddoedd o fy mlaen," meddai ef, "fel yr wyf yn crynu wrth feddwl am danynt." Gallwn nodi llawer o bethau cyffelyb ond waeth hynyna.

Yn awr terfynaf gan eich hysbysu fod miloedd ar filoedd yn gyffelyb i chwi a minau, ie, mwy o lawer nag ydym yn feddwl nac yn ddychmygu.

Hyn yn fyr oddiwrth eich cywir frawd,

H. R. Jones.

O.Y.-Nid wyf i ddim wedi dechreu pregethu eto. Yr wyf yn dal yn yr un caethiwed o hyd ac yn debyg o fod nes y daw y Tywalltiad mawr cyffredinol.

Ysgrifenwch heb fod yn faith. Y mae hi yn neillduol o fflat yn y dref hon, ac yn ei hamgylchoedd, ac felly y bydd hyd nes y daw y llanw mawr.