Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyflwr a geir yng nghoflyfrau'r Sefydliad, i ddeng mlynedd o bryder ac ofn a phrudd-der, a disgwyl yn ofer, ei ddarostwng i wendid mawr o ran meddwl a chorff. Yr oedd yn 34 mlwydd oed pan aeth i Gaerfyrddin. Dioddefai oddi wrth y pruddglwyf, a byddai fynychaf yn synllyd a'i ymadroddion yn ddigyswllt ac angall. Coleddai amryw dybiaethau gwyllt ac anhygoel, megis, meddwl i Arglwydd Palmerston, a pherthynas iddo a fuasai farw flwyddyn ynghynt, ymweled ag ef yn ddiweddar,ac i'r Ymerawdwr Napoleon alw i'w weld yn ei lety yn Aberystwyth. O ran ei gorff yr oedd yn afiach ac eiddil, a'r darfodedigaeth wedi amharu llawer ar ran uchaf ei ysgyfaint chwith. Gwrthodai yn bendant bob ymborth. Yn ôl coflyfrau'r Sefydliad, achos ei anhwylderau ydoedd "Crefydd." Gadawodd Gaerfyrddin Rhagfyr 7, 1870, ac anhwylder ei feddwl wedi ei leddfu (relieved).[1] Gwelir na fu'r driniaeth feddygol am ychydig dros ddeng mis yn foddion i'w wella yn llwyr,-dim ond lleddfu'r amhwylledd, ac y mae'n ddiamau mai dymuniad ei berthynasau yn America a barodd ei ollwng yn rhydd cyn cwbl adfer ei iechyd meddyliol.

Tros amser byr y pery Diwygiadau crefyddol o nodwedd y rhai a gafwyd yng Nghymru er y flwyddyn 1859. Collant eu grym a'u gwres yn raddol oni ddel bywyd yr eglwys eilwaith i'w gynefin. Y mae hyn o raid ac nid o ddiffyg yn yr arweinwyr. Niweidiai gwres mawr a brwdfrydedd Diwygiad fel elfennau sefydlog gymaint ar yr eglwys ag a wnai gwres Gorffennaf ac Awst, yn ddigyfnewid drwy'r flwyddyn, ar y ddaear. Gwres a goleuni Duw i gyfarfod ag oerni gwlad yn ei hawr dywyllaf ydyw Diwygiad. Peth tros dro o angenrheidrwydd ydyw. Yn 1858, yr oedd yr Eglwys mewn trymgwsg, ac yn ddiynni, a'r byd annychweledig yn effro a hy. Rhoddwyd y Diwygiad i ddeffroi'r Eglwys a pheri iddi wisgo gwisgoedd ei nerth a'i gogoniant i'r diben o achub cymdeithas rhag ei rhysedd a'i pherygl. Nid yw Diwygiad yn y ffurf arferol arno yng Nghymru namyn Duw yn ateb galw'r wlad o ddyfnder ei chyflwr moesol.

  1. Ymae'r hyn a ddywedir yma yn dystiolaeth feddygol swyddogol.