Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Anaml y sylweddola arweinwyr diwygiadau yng Nghymru mai pethau eithriadol ar gyfer cyflyrau arbennig ydynt, ac nid pethau arhosol. Methodd Humphrey Jones, a Dafydd Morgan yntau, â sylweddoli'r ffaith hon, a'r methiant hwnnw a gyfrif yn bennaf am y prudd-der a'r gofid a'u daliodd pan beidiodd y dylanwadau nerthol. Y tebyg ydyw i egnion anarferol y Diwygiwr amharu ar ei nerth gieuol rai wythnosau cyn ei fyned i Aberystwyth, ac i hynny effeithio i ryw fesur ar ei ysbryd. Dywedai'r Parch. David Morgan yn Ebrill, 1860, ac yntau'i hun erbyn hyn yn "wan a nervous," y methai ef â dyfalu pa beth a flinai Humphrey Jones yng ngaeaf 1859, eithr y gwyddai bellach trwy brofiad. Awgryma'r cyfeiriadau mynych a wna Humphrey Jones yn ei lythyrau at ei gyflwr nerfus a digalon fod holl nerfau'i gorff wedi'u llacio a'u gwanhau yn ddirfawr. Nid oes yn hyn ddim a bair syndod pan gofier nodwedd a thymor ei waith. Gwyr pob pregethwr a gafodd oedfa fawr â'i brwdfrydedd ysbrydol yn anarferol o uchel am yr effeithiau llethol a adawodd yr oedfa honno ar ei natur. Clywais ddywedyd y byddai'r Parch. John Elias yn llesg a phrudd am wythnos gyfan ar ôl pregethu yn y Sasiwn. Dyma nodwedd gwaith y Diwygiwr ddydd a nos, am o leiaf, ddwy flynedd yn America, a chwe mis yng Nghymru. Bu'r dirdynnu mor gyson a grymus oni lethwyd ei holl natur; a hyd y gwelaf i yr oedd y cwbl yn naturiol; methaf â gweled y gallasai pethau fod yn wahanol. Aeth gweddill oes y dyn ieuanc-tros ddeng mlynedd ar hugain o honi, yn aberth ar allor ei wasanaeth i'r Diwygiad mawr, a gwelais y sylw bod hyn yn un o'r trychinebau mwyaf; eithr nid trychineb mohono, ond braint. O bu trychineb o gwbl, hwnnw ydoedd, i'r Diwygiwr fethu â sylweddoli bod ei waith ar ben; petai'n deall y gwir-bod ei waith ar ben, a bod Duw wedi cyrraedd ei amcan trwyddo, efallai y lleddfai hynny y prudd-der a'r gofid a ddaeth arno. Nid oes fywyd yn drychineb namyn hwnnw sy'n farw i fudd ei gyd-ddyn a hawliau'i wlad arno. Cafodd Humphrey Jones farw tros ei genedl, ac anfarwolwyd ef trwy hynny.