Tudalen:Humphrey Jones a Diwygiad 1859.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XII.
YN AMERICA EILWAITH.

Ar y seithfed o Ragfyr, 1870 aeth y Diwygiwr o Gaerfyrddin i Ddolcletwr, ffermdŷ hen gerllaw Tre'r- ddol, yng ngogledd sir Abertefii. Derbyniwyd ef yno'n llawen gan ei ewythr, Mr. Owen Owen, a'i fodryb Sophia, chwaer ei fam. Dyn tawel a dwys a charedig oedd Owen Owen, a hanner addolai Humphrey Jones. Gwraig fawr o ran corff a meddwl oedd Mrs. Sophia Owen, ac ystyrid hi y gywiraf ei barn a'r fwyaf ei doethineb yn yr holl blwyf, ac edrychai'r plant arni fel yr edrych un ar frenhines urddasol. Un o hen gartrefi cefnog a thangnefeddus Cymru ydoedd Dolcletwr gynt. Ni allesid dwyn y Diwygiwr yn ei ddyddiau blin i well man na'r ddôl deg hon ar fin llif esmwyth Cletwr, ac yng ngolwg y goedwig y gweddiai ynddi ar ddechrau'r Diwygiad oni ddeffroai'r holl gymdogaeth. Eithr ni bu tegwch y fro a chysur cartref ac atgofion am lwyddiant dyddiau bore'r Diwygiad yn foddion i adfer nerth ei feddwl. Dywedai Evan Thomas, a weithiai yn Nôlcletwr pan ddaeth Humphrey Jones adref o Gaerfyrddin, nad "oedd fawr o niwed arno," a'i fod yn dawel a di-ddrwg, ac y soniai'n aml am y gwn a fu yn ei ddwylo ganwaith pan oedd fachgen. Nid oedd," ebe'r hen ŵr, "fawr o le arno, ond nid oedd yn gwbl fel dyn arall."

Yn y flwyddyn 1871, yn gynnar, mi a dybiaf, daeth ei frawd John o America i ymweled ag ef a'i berthynasau eraill yng Nghymru, a phan ddychwelodd dug Humphrey gydag ef i Wisconsin. Ymddengys y pregethai'n achlysurol yn Oshkosh a Sefydliadau Cymreig eraill cyfagos; eithr prin y dylid caniatau iddo wneuthur hynny a chyflwr ei feddwl cynddrwg. Dywaid y Doctor H. O. Rowlands iddo glywed y Diwygiwr, yn fuan wedi ei ddychweliad o Gymru, yn pregethu ar nos Sul yng nghapel y Trefnyddion Calfinaidd ym Milwaukee, ac iddo deimlo ar unwaith nad yr Humphrey Jones