Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o blant bychain ag y dywedai fy mam ei fod, pa fodd yr oedd efe mor exact ac mor wrthwynebol i mi gael chware ar y Sul. Yr oedd yn gâs genyf weled y Sabboth yn agosâu, gan y gwyddwn y byddai i mi yn sicr ddigio Iesu Grist. Un tro gofynais i fy mam pa fath le oedd y nefoedd? Atebodd hithau, gan geisio yn ddiammheu gyfarfod â fy nealltwriaeth, mai gwlad ydoedd lle yr oedd pawb o'r trigolion yn cadw'r Sabboth am byth. Syrthiodd fy ngwep y foment hono, a dywedais wrthi yn bendant nad awn byth i'r nefoedd. fath ergyd a roddais iddi! Gwelaf ei hwyneb hoff yn pruddhâu, a'r dagrau yn ei llygaid. Rhoddais innau fy mraich am ei gwddf, a dywedais wrthi yr awn i'r nefoedd er ei mwyn hi (fy mam), ond fy mod yn gobeithio y cawn yno gan Iesu Grist chware tipyn bach.

Druan oedd fy mam! Gyda'r amcanion goreu yn y byd, yr oedd yn myned o gwmpas fy addysgiaeth grefyddol yn y ffordd fwyaf chwithig a allasai ei dychymygu. Wel, fy hoff fam, yr oeddit yn annysgedig ac anwybodus, ond er hyny y fam oreu yn y byd yn fy meddwl i. Diammheu genyf fod dy weddïau ar fy rhan wedi eu hateb i ryw fesur. Yr wyf yn awr mewn oedran gŵr; ond pa beth a roddwn am gael unwaith eto weled dy wedd! Pa beth a roddwn am un cyfleusdra i geisio gwneyd i fyny am bob gair câs a ddywedais wrthyt, ac am bob ymddygiad angharedig tuag atat! Tybed a wyddost di am fy helyntion a'm profedigaethau wedi i mi dy hebrwng i'r fynwent oer? Mor rhyfedd genyf feddwl erbyn hyn na ddarfu i fy holl anufudd-dod a'm holl ddrygioni leihâu un gronyn ar dy gariad tuag ataf! Cyfarfyddais â llawer cyfaill ffyddlawn, ond neb a'm carai fel tydi-a'm carai yn fwy na'i heinioes ei hun. Mae y byd yn oer a dyeithr i mi hebot ti. Nid oes genyf neb yn fy neall, na neb yn gallu myned i mewn i'm teimladau, fel y byddit ti yn gwneyd. Cyn i mi ysgrifenu brawddeg arall, rhoddaf dro at dy gareg arw â'r ddwy lythyren," gan nad beth a feddylio eraill o honof.

Mae fy adgofion ynglýn â'r Ysgol Sabbothol yn gymysglyd ac ammhenoldol. Yr wyf yn sicr o hyn—mai nid yn yr Ysgol Sul y dysgais y llythyrenau. Nid wyf yn cofio i mi erioed fod yn dysgu yr A B C; naill ai yr oeddwn yn eu hadnabod wrth natur, neu ynte, yr