Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tosturio wrth yr afon Alun yn y pwynt lle y mae yn colli ei hunan yn y Dyfrdwy. O Lanarmon yn Iâl i lawr i Gilcain, a thrwy y Belan ar hyd dyffryn yr Wyddgrug, mor annibynol, hoew, a siriol y mae hi yn edrych! Ond pan yr agoshâ hi at Holt, y mae ei hwyneb yn newid, a phrudd-der yn amlwg i'w weled ar ei gwêdd, yn y rhagolwg, yn ddiammheu, ar golli ei hunan yn y Dyfrdwy. Nis gwn pa fodd y mae dynion eraill yn teimlo; ond y mae yn dda genyf fi feddwl mai yr un un ydwyf o hyd, ac ni fynwn er dim golli fy hunaniaeth. Onid hyn yw gwallgofrwydd? 'Colli arno ei hun " ydyw yr ymadrodd, onidê, a ddefnyddir am un yn gwallgofi? Wel, y mae yn hyfryd genyf daflu fy meddwl yn ol, a dilyn cwrs fy mywyd trwy wahanol gyfnodau, amgylchiadau, a golygfeydd hyd yr awr hon, a chofio mai yr un ydwyf. Ac y mae yn fwy hyfryd genyf feddwl, pan fyddaf nas gwn pa mor fuan yn rhoddi llam i'r byd mawr tragywyddol, mai yr un un a fyddaf, ac na fydd i mi golli fy hun yn neb arall yr un fath â'r Alun druan! Mor rhyfedd! ymhen miloedd o oesau, yr un ymwybyddiaeth a fydd genyf â phan oeddwn yn myned yn llaw fy mam i'r capel am y tro cyntaf !

Ond i ddychwelyd at gyfnod fy mhlentyndod. Ac i mi ddyweyd y y gwir—yr hyn yr wyf yn benderfynol o wneyd rhaid i mi addef nad oeddwn yn hoffi myned i'r capel. Yr oedd y gwasanaeth yn rhy faith o lawer genyf. Nid bob amser y gallwn gysgu yn y moddion. Pan fyddwn yn effro, nid oeddwn yn cael difyrwch mewn dim oll oddigerth yn y canu. Tra y llefarai y pregethwr yn ddiddarfod, fel y tybiwn i, byddai gwaew annyoddefol yn fy nghoesau, a chymaint ag a allai fy mam ei wneyd oedd fy nghadw yn ddiddig. Yr oedd fy mam yn Fethodist o'r Methodistiaid, ac yn glynu yn glós wrth syniadau a thraddodiadau y tadau. Bendith arni! un o'i phynciau mwyaf cysegredig ydoedd cadwriaeth y Sabboth. Nid gwiw oedd i mi sôn am chware nac edrych ar fy nhegenau, ar ddydd yr Arglwydd. Byddai raid i mi eistedd yn llonydd a difrifol, pryd nad oedd genyf y syniad lleiaf am y gwahaniaeth rhwng y naill ddiwrnod a'r llall. Os byddwn yn aflonydd a chwareugar, dywedai fy mam fod Iesu Grist yn ddig wrthyf, ac na chawn byth fyned i'r nefoedd, ond y byddai iddo Ef fy nhaflu i'r "tân poeth." Parai hyn dristwch mawr i mi. Ar yr un pryd, methwn a deall os oedd Iesu Grist mor hoff