Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sêt fawr, ac yn ei lapio yn daclus, gan ei osod o'r neilldu. Synais pan welais beth oedd o dan y llian. Y fath lestri hardd! Gwelwn y dyn oedd wedi bod yn siarad yn faith yn codi, ac yn myned at y llestri a'r bara oedd wedi ei dori yn fân; ac wedi dyweyd rhywbeth eto am Iesu Grist, dechreuodd fwyta. Tybiais mai cymeryd ei swper yr oedd efe. Pa fodd bynag, ni phrofodd efe ond un tamaid ac un llymaid bach; a meddyliais wrth ei weled yn aros ar hyny nad oedd yn ei hoffi. Pa faint oedd fy syndod pan welais y dyn yn cymeryd y bara ac yn myned oddiamgylch, gan roddi tamaid i bawb. Yr oedd arnaf chwant bwyd, a chredais mai dyn clên oedd y gŵr wedi'r cwbl, ac er ei fod wedi fy nwrdio i mor dost. Pan ddaeth at fy mam cymerodd hi damaid, ac estynais innau fy llaw; ond gwrthododd fi. Digiais yn enbyd wrtho, a thorais i wylo allan am oddeutu y chweched waith y noson hono. Yr oedd yn amlwg i mi erbyn hyn fod gan y dyn rywbeth yn fy erbyn. Cafodd fy mam drafferth fawr yn fy nhawelu; a phan ddaeth y dyn oddiamgylch gyda'r cwpan, cuddiais fy wyneb o dan glog fy mam rhag imi edrych arno, a rhag iddo yntau gael y cyfleusdra i fy ngwrthod eilwaith. Rhwng fod y nos yn dywell, a minnau, fel y tybiwn, wedi cael fy insultio gan y pregethwr, yr oeddwn yn flin iawn fy nhymher; a bu raid i fy mam fy nghario yr holl ffordd gartref y noson hono.

Mor ffortunus ydyw na fwriedir i'r hanes hwn gael ei gyhoeddi! oblegid pe amgen, nis gallaswn adrodd yr hyn a adroddais, am y buasai yn rhy syml a phlentynaidd, er ei fod yn wir, ac er y huasai, o bosibl, yn newydd mewn llenyddiaeth, er nad yn newydd i brofiad ambell ddarllenydd.

PENNOD IV.

Evan Jones, Hwsmon, Gwernyffynnon.

WRTH i mi daflu fy meddwl yn ol at yr adeg pan oeddwn blentyn, mor rhyfedd genyf feddwl mai yr un un ydwyf o hyd er yr holl gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle yn fy syniadau a'm tueddiadau. Wrth gymharu y plentyn â'r dyn, mor wahanol ac eto mor debyg ydynt ! Ni fynwn am y byd wadu fy hunaniaeth, na newid fy ym. wybyddiaeth am ymwybyddiaeth neb arall. Bum lawer gwaith yn