Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thybiais ar y dechre mai efe oedd yr "Iesu Grist y soniai fy mam gymaint am dano wrthyf. Dysgwyliwn o hyd iddo dewi, ond nis gwnai. Wedi bod yn siariad yn faith, fel y tybiwn i, dechreuodd "y dyn" edrych yn ddig a chochi yn ei wyneb a gwaeddi yn uchel; a phenderfynais ar unwaith mai nid Iesu Grist oedd efe. Tybiwn fod "y dyn" yn fy nwrdio i yn dost—am ba beth nis gwyddwn; ond o herwydd ei fod wedi edrych arnaf lawer gwaith, gwyddwn o'r goreu mai ataf fi yr oedd efe yn cyfeirio, a dechreuais wylofain drachefn; a bu raid fy hanner fygu eilwaith, a rhoddi i mi eto Nelson ball cyn y tawn.

Edrychais o'm cwmpas, ac i lawr ac i fyny. Synais weled cynifer o bobl yn lloft y capel. A oeddynt i gyd yn arfer a chysgu yno? Pa le yr oeddynt yn cael digon o welyau? Gwelwn y capel yn dechre tywyllu, a'r dyn oedd yn y box yn ymddangos yn llai ac ymhellach o lawer oddiwrthyf, er ei fod yn dal ati i waeddi yn uwch ac yn uwch. Teimlwn fy mam yn fy llochesu, ac yn y fynyd collais olwg ar bawb a phobpeth-yr oeddwn mewn trwmgwsg. Nis gwn am ba hyd y bum yn cysgu; ond cafwyd trafferth fawr i fy neffro, er fod yr holl gynnulleidfa yn canu. Hoffwn y canu yn fwy o lawer na'r bregeth. Teimlwn rywfodd fy mod yn deall y canu, er nas gallaf yn awr roddi ffurf ar y dealltwriaeth hwnw. Erbyn hyn, eisteddai y dyn oedd yn y pulpud, gan sychu y chwys oddiar ei dalcen, a chan osod cadach mawr yn llac am ei wddf. Gwelwn Abel Hughes yn dringo i fyny grisiau y pulpud; a phenderfynais yn fy meddwl mai myned i nôl "y dyn" ar ei gefn yr oedd efe, fel y byddai Bob yn fy nôl i o'r llofft gartref. Siomwyd fi yn ddirfawr pan welais ef yn sefyll ar ganol y grisiau, ac yn dyweyd rhywbeth wrth y bobl. Deallais ymhen y rhawg ar ol hyny mai cyhoeddi y moddion am yr wythnos ddilynol yr oedd efe. Aeth y nifer mwyaf o'r bobl allan; ond arosodd fy mam ac amryw eraill ar ol, a chauwyd drysau y capel. Meddyliais nad oeddym byth i gael myned adref, a dechreuais grio drachefn ; ond dywedodd fy mam wrthyf ar ei gwir y caem fyned “rwan just.” Gwelwn y dyn oedd wedi bod, fel y dychymygwn, yn fy nwrdio i, yn disgyn i lawr grisiau y pulpud; a gwyliwn ef yn ddyfal rhag iddo syrthio. Cyrhaeddodd i'r gwaelod yn ddiogel. Wedi hyn gwelwn Abel Hughes yn codi y llian oedd yn cuddio rhywbeth ar ffrynt y