Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa un ai y cyntaf, yr ail, neu yr ugeinfed tro i mi fyned yno, neu ynte amryw droion wedi ymdoddi i'w gilydd a adawodd argraff mor ddwfn ar fy meddwl, nis gallaf yn awr benderfynu. Ond sier wyf fy mod yn cofio myned yn llaw fy mam i'r capel, a fy mod yn gweled y ffordd yn faith iawn—a fy mod wedi mynu cael fy nghario ran fawr o'r siwrnai. Tebygol mai nos Sabboth ydoedd; oblegid yr oedd y capel yn llawn o bobl, ac hefyd wedi eu oleuo, nid â gas y pryd hwnw, eithr â chanwyllau. Brawychais weled cynnifer o bobl, a thorais allan i wylofain; ac yr wyf yn cofio fod fy mam wedi gosod ei llaw ar fy safn nes y bu agos iddi a fy mygu; ac nid cyn i rywun oedd yn fy ymyl roddi i mi Nelson ball y peidiais a gwaeddi. I ba le y mae y melusion enwog hyny wedi myned? Ni fyddaf yn gweled dim tebyg iddynt yn y dyddiau hyn. Pa un ai fi ai y melusion sydd wedi newid? Yr oedd llawr y capel y pryd hwnw yn wahanol iawn i'r peth ydyw yn awr. Yr oedd yn agored, a rhesi o feinciau digefn ar ei draws, gydag ychydig eisteddleoedd dyfnion o'i gwmpas, y rhai a bwysent ar y mur. Ar ganol y llawr yr oedd stove fawr, a llawer o blant o'i chwmpas, â'u hwynebau cân goched â chrib y ceiliog. Mae yn debyg mae y gauaf oedd yr adeg ar y flwyddyn.

Yr wyf yn cofio am y sêt fawr a'r sêt ganu ar yr ochr chwith iddi, ac am Abel Hughes gyda'i gap melfed yn eistedd o dan y pulpud, yr hwn-sef Abel-oedd yn myned oddiamgylch yn awr ac yn y man i snyffio y canwyllau. Bydd genyf rywbeth i'w ddyweyd eto am Abel Hughes. Yr oedd y pulpud â'i gefn ar y mur, ac yn sefyll ar ddwy golofn, ac mor uchel nes peri i mi feddwl am nyth y wenol a adawsid o dan fondo ein tŷ ni er yr haf blaenorol. Synwn sut yr oedd y dyn," fel y galwn i ef, oedd yn y pulpud, wedi gallu dringo i'r fath le, a pha amcan oedd ganddo yn myned yno. Gofynwn i mi fy hun, os oedd efe yn arfer a dringo yno, a fyddai efe, tybed, yn cael codwm weithiau wrth ddyfod i lawr y grisiau, fel y cawsom i fwy nag unwaith wrth ddyfod i lawr o'r llofft, neu a fyddai rhywun yn ei gario ar ei gefn, fel y cerid fi gan Bob fy mrawd i lawr o'n llofft ni! Rhyfeddwn yn fawr nad oedd neb yn dyweyd dim ond y dyn oedd yn y box," a rhyfeddwn fwy fod ganddo ef gymaint i'w ddyweyd, Nid oeddwn yn deall dim oll a ddywedai, oddigerth yr enw "Iesu Grist"