Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gathod bychain trwy wasgu y gwynt allan o honynt; a chyflawnais amryw ystrywiau eraill na wiw i mi hyd yn nôd eu cyfaddef wrthyf fy hun, er nad wyf yn teimlo euogrwydd o'u herwydd. Yr hyn sydd yn fy synu fwyaf ydyw, fod pawb wedi cymeryd i fyny gyda mi, ae ymddwyn tuag ataf fel pe buaswn yn dwyn llawer o elw iddynt, pryd mewn gwirionedd nad oeddwn yn dda i ddim. Nid yn unig nid oeddwn yn dwyn dim elw i neb, ond achoswn lawer o flinder a thrafferth. Collodd fy mam lawer noswaith o gysgu o'm herwydd; ac ugeiniau o weithiau y bu raid iddi godi gefn nos i wneyd tê slecyn i mi. Ar adegau gwaeddwn am oriau bwygilydd; ac o herwydd fy mod wedi cymeryd yn fy mhen i beidio siarad am gryn ddwy flynedd, ni wyddai neb am ba beth y gwaeddwn. Ac er y cwbl, clywais fy mam yn dyweyd na chymerasai y byd am danaf, hyd yn nôd pan waeddwn fwyaf.

Yr oeddwn yn dalp o blentyn tewdrwm, ac ystyried fy mod yn byw ymron yn hollol ar laeth ; ac er fy mod mor drwm, ymgystadleuai fy nghymydogion yn fy nghario. Ymddengys fy mod yn hoffi bod heb ddannedd; oblegyd pan ddechreuodd yr aelodau hyny wneyd eu hymddangosiad, yr oeddwn yn flin iawn fy ysbryd, yn gymaint felly nes y curiodd fy nghnawd. Dywedwyd wrthyf fy mod wedi rhoi ffordd mor fawr i natur ddrwg nes i mi o'r diwedd gael convulsions. Mor ynfyd oeddwn! Gwyn fyd na chawn y cyfleusdra i dyfu dannedd yrwan! Ond y mae un fantais o fod fel yr ydwyf yn awr: ni fedr neb daflu dim "ar draws fy nannedd!"

Wel, dyna ddigon am y cyfnod nad oes genyf un cof am dano; a gwell o lawer genyf droi at yr amser y gwn rywbeth yn ei gylch oddiar fy mhrofiad a'm cof.

PENNOD III.

Cofion Boreuaf.

Yr wyf yn meddwl, ie, yr wyf yn sicr o ran hyny, mai un o'r pethau cyntaf yr wyf yn gofio ydyw myned gyda fy mam i'r capel. Nid ydyw yn ddrwg genyf fod fy nghofion cyntaf ynglyn â'r capel mawr. Yr hen gapel anwyl! ti a adewaist lawer argraff ar fy nghof, ac ar fy nghydwybod hefyd, mi obeithiaf.