Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ysgrechian hyd eithaf fy ngallu ar ddechre fy oes, nid allai y ddwy gymydoges oeddynt yn y fan a'r lle benderfynu. Pa fodd bynag, ystyrid fi gan y ddwy gymydoges grybwylledig yn un hollol ddideimlad ac anystyriol, pan wnawn y fath drwst, a minnau yn gwybod, neu o leiaf y dylaswn wybod, fod fy mam mor wael y bore hwnw. Gwn hyn-nad ymgynghorwyd â fi o gwbl gyda golwg ar yr amgylchiad y cyfeiriais ato; a dichon mai hyny a barodd i mi fod mor afrywiog fy natur. Wrth gwrs nid yw hyn ond dyfaliad, ac nis gallaf ei osod i lawr fel ffaith. Oni buasai fy mod yn berffaith sicr na byddai fy mam un amser yn dyweyd yr hyn nad oedd wir, o'r braidd y gallwn gredu fy mod yn y cyfnod hwn ar fy mywyd fel yr wyf agos yn awr, sef yn hollol benfoel a diddannedd, ac hefyd fod fy nhrwyn, yr hwn a ystyrir yn gyffre in yn Rhufeinig o ran ffurf—ei fod, meddaf, y pryd hwnw, nid yn unig yn fflat, ond fel newyddloer â'i dau big i fyny, a fy mod mor gnawdol, fel yr oedd tyllau yn fy mhenelinoedd a'm pengliniau, lle nad oes yn awr, byd a'i gŵyr, ond esgyrn pigfaen i'w canfod. Nid wyf yn cofio ychwaith am gyfnod pryd nad allwn a phan nad oeddwn yn weddol barod i gerdded; ond dywedodd fy mam wrthyf fy mod ar un adeg yn gwbl wrthwynebol i hyny, ac na wnawn ond gorwedd ar fy nghefn a gwaeddi a chicio, os na fyddai rhywun yn fy nghario. Mae yn ddrwg genyf fy mod yn euog o'r fath ymddygiadau, er nad oes genyf un cof am danynt. Rhyfedd genyf feddwl erbyn hyn fod tair blynedd o fy oes wedi myned heibio na wn ddim yn eu cylch oddiar fy nghof; a phe byddai y rhai a'm hadwaenent oreu yr adeg hono, ac yn ngeirwiredd y rhai y gallwn ymddiried, yn rhoddi y cyhuddiadau gwaethaf yn fy erbyn, ni fyddai genyf ddim i'w wneyd ond eu credu. Ai onid oedd genyf y pryd hwnw reswm, cof, a theimlad? Ai lwmp o glai byw oeddwn ? Os felly, o ba le y daeth i mi reswm, cof, a phethau cyffelyb ?

Un peth a feddwn, mi wn, oddiar dystiolaeth fy mam—ac y mae arnaf ofn fy mod yn ei feddu heddyw i raddau gormodol-sef yw hyny, drygioni. Torais, ebe hi, lawer o lestri; a gwn ei bod yn dyweyd y gwir: chwilfriwiais yr ychydig arddurniadau a feddai, cripiais wynebau a thynais wallt amryw o'm perthynasau a'm cymydogion. Tynais glustdlws un ferch ieuanc yn glir drwy ei chnawd, nes oedd y gwaed yn pistyllio ar ei hysgwydd. Lleddais dair o