Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo. Gyda miloedd ar filoedd o'm cydoeswyr, byddaf y pryd hyny yn gorwedd yn dawel yn nystawrwydd dinodedd ac anghof. Ac eto nid wyf yn hoffi meddwl am hyn. Eithr pa help sydd, gan mai hon ydyw ffawd pawb o honom ni y bobl gyffredin ? Pa beth ydyw yr achos, tybed, fod dyn mor anfoddlawn i'w enw syrthio i anghof wedi iddo farw, pryd nad all cof nac anghof wneyd da na drwg iddo? Mae y meirw, dybygaf, yn cael llawn cymaint o foddhâd yn y gareg sydd yn nodi eu beddrod ag y mae y cyfeillion tyner sydd yn ei gosod yno. Mae esgyrn y meirw yn gorwedd yn fwy tawel os bydd coffadwriaeth uwch eu pen! Anfarwoldeb a oes a wnelych di rywbeth â hyn ?

Yr wyf am ysgrifenu fy hanes, meddaf, nid i'w argraffu-diolch am hyny! - oblegid pe felly, nid allwn ddyweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir, gan y byddwn yn yr amgylchiadau hyny yn astudio y darllenydd yn gystal a mi fy hun. Rhys, beth a ddywedi am danant dy hun? Cofia ddyweyd y gwir. Hyny a wnaf; ac os cyferfydd câr neu gyfaill i mi â'r ysgrifen hon, gwybydded nad oes genyf air i'w dynu yn ol.

PENNOD II.

Y Cyfnod Cyntaf ar fy Oes.

PAN darawyd fi gyntaf gan y drychfeddwl i ysgrifenu hanes fy mywyd fy hunan, tybiais y gallwn wneyd hyny heb gymorth neb byw bedyddiol. Mor ynfyd oeddwn! Gwelaf wrth ddechre ar y gwaith y bydd raid i mi ymddibynu yn hollol ar dystiolaeth eraill gyda golwg ar y rhan flaenaf o'm hoes; a chan fy mod yn benderfynol o geisio ymgadw at ffeithiau, rhaid i mi addef wrthyf fy hun nad ydwyf yn cofio dim am yr adeg y daethum gyntaf i'r byd.

Yn ngwyneb y diffyg hwn o eiddo fy nghof, yr wyf yn meddwl y y gallaf ymddiried yn gwbl yn ngeirwiredd fy mam. Dywedodd hi wrthyf fwy nag unwaith mai rhwng dau a thri o'r gloch yn y bore, ar y pummed dydd o Hydref, yn y flwyddyn 18- y gwelais gyntaf oleuni canwyll ddimai. Pa un ai teimlo yn dramgwyddedig o herwydd fod y parotoadau ar gyfer fy nyfodiad mor salw, neu ynte rywbeth arall, a barodd i mi fod mor groes fy nhymher, a gwaeddi