Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn troi yn yr un cylchoedd a chyfarfod yr un profedigaethau â mí fy hun. Onid oes yma ddosbarth o feddyliau a theimladau na roddwyd mynegiad iddynt erioed, a hyny o herwydd eu cyffredinedd, yr un modd ag mae llawer o brydferthion natur heb dynu sylw am eu bod i'w gweled ymhobman? Ai amddifadrwydd o brydferthwch ydyw y rheswm fod llygad-y-dydd heb dynu sylw y blodeuydd, ac ennyn molawd y bardd, ai ynte am ei fod i'w weled ar bob cae, ac am ei fod yn cael ei sathru gan bob buwch? Pe dechreuai y robyn goch a'r ysnosen felen draethu ar brydferthwch anian, deuai tlysni y friallen wyllt am ran helaeth yn ei canmolaeth, er mai y cloddiau anamaethedig a addurnir ganddi hi. Tueddir fi i feddwl nad oes odid un dyn na fyddai hanes gonest o'i fywyd yn ddyddorol. Onid oes yn mywyd pob dyn ddygwyddiadau gwerth eu croniclo, a meddlyliau wedi bod yn ei galon, na ddarfu iddo ef ei hun na neb arall roddi mynegiad iddynt ? Bum yn meddwl lawer gwaith mai un gwahaniaeth mawr rhwng dyn cyffredin a dyn anghyffredin ydyw, fod yr olaf yn gallu mynegu yr hyn y mae efe wedi ei feddwl a'i deimlo, tra nad all blaenaf, neu o leiaf na cheisiodd, wneyd hyny. Yr hyn a barai i mi feddwl felly oedd hyn: pan fyddwn yn darllen awdwyr enwog, neu ynte yn gwrando ar feistriaid y gynnulleidfa, teimlwn yn gyffredin nad oeddynt yn dyweyd dim oedd yn hollol newydd i mi, eithr yn unig eu bod yn gallu rhoddi ffurf, a gosod mewn geiriau, yr hyn yr oeddwn i fy hun eisoes wedi ei deimlo neu ei feddwl, ond na fedraswn roddi mynegiad iddo. Neu, mewn geiriau eraill, eu bod yn gallu darllen llêch fy nghalon, yr hon yr oeddwn i am flynyddau wedi bod yn ceisio ei sillebu. Yr oeddwn yn ymwybodol fod y meddyliau a'r teimladau eisoes yn fy nghalon, ond eu bod yn cysgu, neu yn hytrach yn hepian, ac mai yr unig beth yr oedd y meistriaid yn gallu ei wneyd oedd curo drws eu hystafell wely mor effeithiol nes yr oedd y cysgaduriaid yn neidio i'r llawr ac yn agor eu llygaid !

Mae arnaf flys ysgrifenu hanes fy mywyd fy hun, nid i eraill, ond i mi fy hun; ac yn sicr nid i'w argraffu, ond yn hytrach fel math o hunangymundeb. Gwn yn eithaf da nad oes berygl i neb wneyd cofiant o honof wedi i mi farw. Can' mlynedd i heddyw, ni bydd y byd yn gwybod mwy am danaf na phe buaswn erioed wedi bod