Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD I.

Cofaint.

Yn ystod fy oes darllenais amryw gofiaint, ac nis gallaf byth fesur na phrisio y difyrwch a'r lles a gefais trwy hyny. Dichon fod llawn cymaint o dalent, ac o synwyr yn enwedig, yn cael eu harddangos mewn bwygraffiaeth ag sydd mewn unrhyw gangen o lenyddiaeth, am y rheswm, dybygid, fod yn rhaid i'r awdwr wybod rhywbeth am ei destyn, yr hyn, fel yr ymddengys, nad ydyw yn anhebgorol gyda changenau eraill; oblegid pa mor fynych yr ydys yn cael dynion yn ysgrifenu ar bynciau na wyddant ddim yn eu cylch? Ar yr un pryd, er mor alluog a ffyddlawn y desgrifiai y cofiantydd gymeriad cyhoeddus ei wrthddrych, gofidiwn yn fynych wrth feddwl mor ychydig a wyddai efe, wedi'r cwbl, am deimladau a hanes mewnol yr un y byddai yn son am dano. Teimlwn hefyd mor dda a fuasai gan y cofiantydd, yn gystal a'r darllenydd, gael gofyn ychydig gwestiynau i'r hwn oedd bellach yn gorwedd yn ei ddystaw fedd. Ac yn hyn y mae gan hunangofiant fantais fawr ar gofiant cyffredin. Ond wedi ail ystyried, yr wyf yn tybied mai cofiant wedi ei ysgrifenu gan arall, ac nid gan y gwrthddrych ei hun, ydyw y cywiraf ar y cyfan. Gwir fod teimladau a defnyddiau wrth alwad y dyn sydd yn ysgrifenu ei hanes ei hun nad all un arall, gan nad beth fyddo ei alluoedd a'i ffyddlondeb, byth eu dyfalu. Ond er hyny, pan fyddo un yn ysgrifenu ei hanes ei hun, ac ar yr un pryd yn ymwybodol fod yr hanes hwnw i gael ei gyhoeddi, os bydd yn ŵr coeth a llednais, meddiennir ef gan wyleidd-dra ac ofn i eraill dybied ei fod yn gorbrisio ei hun, a'r canlyniad fydd nad ydyw yn hawlio iddo ei hun yr enw a'r lle a roisid iddo gan arall.

Meddyliais lawer gwaith mor dda a fuasai genyf gael gofiant cywi. o fywyd dyn cyffredin fel fy hunan. Yr holl gofiaint a ddarllenais i, yr oedd eu gwrthddrychau yn ddynion mawr a hynod mewn rhywbeth neu gilydd, ac wedi bod yn troi mewn cylchoedd na buaswn i erioed ynddynt, a myned trwy amgylchiadau na wyddwn i ddim am danynt. Ac er o bosibl mai hyn oedd yn eu gwneyd yn wrthddrychau gwerth ysgrifenu cofiant o honynt, teimlwn ar yr un pryd mor hyfryd a fuasai genyf gael darllen hanes dyn cyffredin—un wedi bod