Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoi ffordd yn ormodol i'r duedd hon at neillduaeth; ac ar fwy nag un achlysur bu raid i'r diaconiaid alw ei sylw at ei ddyledswyddau cyhoeddus. Blinid ef weithisa gan iselder ysbryd; a thybiai rhai fod rhywbeth yn pwyso ar ei feddwl nad oedd hyd yn nôd ei gyfeillion mwyaf mynwesol yn hysbys o hono, tra y dywedai eraill mai anhwyldeb ar ei nervous system oedd yr achos. Dichon y bydd yr hanes canlynol, o'i waith ef ei hun, yn taflu rhyw gymaint o oleuni pa un o'r ddwy dybiaeth oedd yn gywir. Bu gweinidog Bethel farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, ac heb flotyn ar ei gymeriad, a thra nad oedd efe ond cymharol ieuanc.

Yn ddiweddar, pan oeddwn o dan gyfarwyddyd ei esgutores yn trefnu ei lyfrau gogyfer 'u gwerthiant, tarewais ar ysgrif drwchus; ac wedi ei harchwilio cefais mai hunangoflant ydoedd. Gan dybied y gallai fod yn yr ysgrif rywbeth o ddyddordeb, ac wedi cael caniatâd ysgutores yr ymadawedig, cymerais yr ysgrif gyda mi gartref; a phan gefais hamdden, darllensis hi yn fanwl. Heblaw fod awdwr y cofiant yn dyweyd hyny yn bendant (fel y ceir gweled eto), y mae yn ddigon amlwg oddiwrth arddull a chymwys yr ysgrif, na fwriadai efe iddi gael ei hargraffu. Pa fodd bynag, cefais i fy hun y fath foddhad wrth ddarllen yr hunangofiant, a barodd i mi ofyn caniatâd i'w gyhoeddi; ac yr wyf yn awr yn ei gyflwyno i'r cyhoedd, gan hyderu y bydd iddynt hwythau gael yr un boddhad. Ar yr un pryd, yr wyf yn teimlo fod apology dros yr hanes yn ddyledus. Mae y pennodau cyntaf braidd yn ysgafn a phlentynaidd, er yn ddiniwed, ac, fel yr wyf yn credu, yn ffyddlawn i natur, ac yn mynegu profiad llawer un. Fel y mae yr hanes yn myned ymlaen, y mae yn dyfod yn fwy sylweddol, ac yn cynnwys desgrifiadau o hen gymeriadau hynod a chrefyddol. Cymerais fy rhyddid, o herwydd rhesymau neillduol, i newid enw yr awdwr, ac eraill y mae yn sôn am danynt. Nid oeddwn yn teimlo fod genyf hawl i wneyd ychwaneg o gyfnewidiadau. Os bydd y darllenydd yn canfod rhyw bethau heb fod yn unol â'i feddwl, ac yn tuedda i dramgwyddo wrth yr arddull rhydd. sydd weithiau yn ymylu ar y digrifol, ac hefyd y gorfanylder a ddangosir wrth ddesgrifio pethau bychain, dymunwn iddo gofio yn barhaus na fwriadodd yr awdwr i'r hanes gael ei argraffu.