HUNANGOFIANT RHYS LEWIS.
Gweinidog Bethel.
RHAGARWEINIAD.
MAE Gweinidog Bethel, er ys peth amser bellach, yn gorwedd yn dawel yn mhriddellau'r dyffryn. Yn ei ddydd ystyrid ef yn ŵr call a diymhongar; a gwyddai y rhai a'i hadwaenent oreu fod mwy ynddo nag oedd yn dyfod i'r golwg. Er ei fod, fel gweinidog yr efengyl, yn "ddyn cyhoeddus," fel y dywedir, ni byddai byth yn chwannog i ddangos ei hun. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr, a hyny yn benaf am nad allai ganu, yr hyn oedd yn anffawd fawr iddo. Serch hyny, byddai ganddo ef bob amser rywbeth gwerth ei wrandaw; a chlywais ddynion o farn addfed yn dywedyd, y buasai ei bregethan "mewn preint" yn sefyll cymhariaeth ffafriol & goreuon y pulpud Cymreig. 'Yn wir, tadogid yr ychydig erthyglau a ysgrifenodd efe i'r Traethodydd i'r Dr.; a darllenid hwy gyda blâs. Yr oedd hyn yn y cyfnod pan na chyhoedid enwau yr awduron yn y chwarterolyn gwerthfawr hwnw. Dichon pe cyhoeddasid yr enwau y pryd hwnw, na fuasai neb yn myned i'r drafferth i ddarllen ysgrifau Rhys Lewis. Fel bugail bu yn lled hapus a llwyddiannus. Ond y mae yn rhaid cydnabod nad oedd hyny ond dygwyddiad; oblegid y prif reswm am y ffaith oedd, fod mwyafrif yr eglwys yr oedd efe yn weinidog iddi yn meddu gradd helaeth o synwyr cyffredin, ac ychydig o deimlad cristionogol.
Er fod Rhys Lewis yn ŵr hywaeth a chymdeithasgar iawn gyda y rhai yr oedd efe yn weddol hyf arnynt, eto ei, hoff fan oedd unigrwydd ei fyfyrgell. Ar adegau byddai yn anghofio ei hun, ac yn