Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y diwrnod cyn iddynt gychwyn, cynhaliwyd arwerthfa ar ddodrefn ac eiddo William Huws. Gwerthwyd y cyfan, oddigerth ychydig o nwyddau diwerth ynddynt eu hunain, ond y rhai oeddynt dra gwerthfawr yn ngolwg y tylwyth, o herwydd rhyw bethau bychain cysylltiedig â'u hanes; a dau wely peiswyn glân, gydag ychydig wrthbanau a chynfasau o wneuthuriad cartref.

Yr oedd y cyfnewidiad yn, ac o amgylch y Tŷ Gwyn, y fath fel mai anhawdd fuasai ei adnabod fel yr annedd ddestlus yn mha un y preswyliai y teulu dedwydd gynt, ond y rhai oeddynt yn awr ar fin ei adael, heb, efallai, obaith ei weled byth mwy.

Noson ddu, ddigysur, oedd y noson olaf a dreuliasant rhwng muriau moelion yr hen dŷ; ac yr oedd pob un o aelodau'r teulu yn gofidio ac yn galaru dros ryw dristwch cyfrinachol nas gallai neb arall ei ganfod na'i deimlo. Y mae adegau pan y bydd y cyfaill anwylaf ac agosaf yn ymddangos fel dieithr ddyn y mae, weithiau, dyfnderoedd o deimlad, nas gall, ac nis gwiw, i lygad neb eu chwilio, dirgryniadau o ing dirgelaidd tu hwnt i gydymdeimlad dynol. Ei hunan y mae dyn yn dyfod i'r byd—ei hunan yn ymollwng ar gefnfor tragywyddoldeb; a rhwng y ddau gyfnod, y mae ambell foment yn dygwydd pan fydd dyn yn gorfod teimlo, er gwaethaf ei ymdrechion i'r gwrthwyneb,—ei fod "ar ei ben ei hun," megis, heb neb ar y ddaear a all ei gysuro.

Teimlai William a Marged Huws hyny i raddau yn awr, er fod y cymydogion, yn ol arfer Cymry y wlad, yn heidio atynt i gynyg eu cydymdeimlad, eu cymorth, a'u dyddanwch.

Yr oedd y tair geneth wedi bod yn adeiladu cestyll lawer yn yr awyr, wrth feddwl am gael myned i fyw i Lynlleifiad. Addawent iddynt eu hunain ddedwyddwch annesgrifiadwy yn y lle mawr yr oeddynt wedi clywed cymaint am ei ryfeddodau. Ond sobrodd yr arwerthiant ar bethau y Tŷ Gwyn lawer arnynt hwythau hefyd, a gwnaeth i Mari fach gydymdeimlo mwy â gofidiau ei rhieni; ac wylai y ddwy eneth leiaf wrth weled eu mam yn wylo, pan werthwyd yr hen dresser dderw, a gafodd hi gan ei mam ei hun, a chofio fod y fam hono, bellach, wedi myned i'r "tŷ rhag—derfynedig i bob dyn byw."

Yr oedd gofid Huw, y bachgen, yn fawr arno. Clywodd ef Mr. Lloyd, wrth geisio perswadio ei dad i beidio myned i Lynlleifiad, yn dangos effeithiau peryglus awyr afiach tref fawr ar blant ieuainc, a'r temtasiynau a amgylchynent ieuenctyd mewn lle fel Llynlleifiad. Ac er fod hyny yn