Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.

Trwm yw'r plwm, a thrwm w'r cerig,
Trwm yw calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad,
Canu 'n iach lle byddo cariad.
—HEN BENILL.


AETH dau fis heibio, ac yr oedd deifwynt y gauaf yn diosg y coed o'u hychydig ddail gweddill, a rhew y nosweithiau oerion yn cloi yr afonydd mân mewn iâ, ac yn gyru iasau o fferdod trwy gymalau Anian.

Yr oedd pawb trwy'r fro yn gwybod am anffodion Mr. Price, Bodonen, ac yr oedd tynged ei hwsmon llafurus a ffyddlawn yn peri galar i'r holl gymydogion gwledig; a dyfnheid y galar hwnw fel y dynesai y dydd iddo ef a'i dylwyth orfod troi eu cefnau ar y Tŷ Gwyn.

Yr oedd gan William Huws frawd yn gweithio o gylch un o ddociau Llynlleifiad. Ysgrifenodd 'lythyr. at y brawd hwnw i'w hysbysu o'i drallodion, gan geisio ganddo chwilio am ryw waith iddo yntau yn y dref borthladdol hono, lle mae cynnifer o Gymry yn cael eu bywioliaeth—canoedd o honynt yn enill clod a golud, ac yn dyfod yn bobl ddylanwadol,—miloedd yn cael gwaith cyson ac enillgar; a llawer hefyd, ysywaeth! yn cyfarfod âg anffodion a siomedigaethau. Bu William am gryn amser heb gael atebiad oddi wrth ei frawd; ond, o'r diwedd, fe ddaeth llythyr, gydag hysbysrwydd ei fod wedi methu cael gwaith iddo, ond ei fod yn gobeithio llwyddo yn fuan. "Felly," ebe fe, "gan dy fod yn gorfod ymadael oddiyna, chan fod genyt dipyn o arian wrth dy gefn, gwell i ti a'th deulu ddyfod drosodd yma; byddaf yn sicr o gael rhyw fath o waith i ti cyn y derfydd dy arian."

Penderfynodd William ddylyn cyngor ei frawd, a dechreuodd barotoi ar gyfer ymfudo i Lynlleifiad.

Yr oedd y gweinidog, yn eglwys yr hwn yr arferai William Huws, a'i dylwyth, addoli, yn ceisio ei berswadio, yn mhob modd, i beidio myned i Loegr cyn cael sicrwydd o waith; ond nis gallai William yn ei fyw ymwrthod â'r dybiaeth fod ffawd dda yn ei aros yn Llynlleifiad. Ac wrth weled nad oedd dim yn tycio, penderfynodd y Parch. Mr. Lloyd na chaffai Huw, bachgen William Huws, ddim myned gyda'i rieni; ac efe a ofynodd, megis ffafr bersonol iddo ef ei hun, am iddynt adael Huw gydag ef, i fod yn was iddo, gan addaw gofalu am ei gysur, a'i addysg, a rhoddi pob cynnorthwy yn ei gyrhaedd i ddyfod yn mlaen. Nis gallai y rhieni wrthod y fath gais, gan fod ganddynt yr ymddiried llwyraf yn nuwioldeb a charedigrwydd Mr. Lloyd.