Tybiodd Marged Huws ei bod hi yn canfod rhywbeth annghyffredin hyd yn nod yn ngweddi ei gwr y noson hono, ac fod y Psalm, a ddetholodd i'w darllen, wedi cael eu dewis oddiar ryw reswm neillduol. Ond ni soniodd hi air am hyny hyd nes yr aeth y plant i'w gorweddleoedd. Yna dywedodd
"Beth sy', Wil bach? Y mae rhywbeth yn pwyso ar dy feddwl!"
"Oes, wir," ebe William, "yr wyf wedi bod mewn tipyn drallod er's dyddiau bellach; ond mi gedwais fy ofnau rhag i ti eu clywed, am fy mod yn rhyw obeithio y buasai pethau'n troi allan yn well na 'r dysgwyliad. Ond, yrwan, y mae trallod go drwm yn ein bygwth."
"Wel, beth ydi o? Paid a'i gadw i ti dy hun. Gallaf fi gyd—ddwyn pob baich hefo 'ch di."
"Roeddwn i wedi dyall er's cryn amser fod fy meistar mewn cyfyngdra, ac fod rhyw bobol, yr oedd o yn eu dyled, yn bwgwth dysgyn ar ei eiddo. Ac heiddiw, y mae beilïod yn Modonen!"
"Beiliod yn Modonen!" ebe Marged, gyda braw.
"Oes, yn wir, wel 'di. Y mae pobpeth i gael eu gwerthu —fy meistar yn myned i golli ei ffarm, a—a—a—"
Petrusodd William fynegu ychwaneg; ond dywedodd Marged—"Gad wybod y gwaethaf, Wil."
"Wel, yr wyf finau i golli fy lle, ac wedi cael rhybudd i 'madael oddiyma erbyn Gwyl Mihangel nesaf!"
Yr oedd hyn yn ormod hyd yn nod i Marged Huws ei ddal heb wylo.
Cael eu troi allan o'r Ty Gwyn!—y bwthyn ag yr oedd eu diwydrwydd a'u glanweithder wedi ei wneyd yr harddaf yn y fro, yn yr hwn y treuliasant ddyddiau dedwyddion eu bywyd priodasol, —yn yr hwn y ganwyd eu mab a'u tair geneth—yr hwn oedd wedi dyfod iddynt yn wrthddrych serch ac ymlyniad cryf!
Wel, wyla di, Marged druan,—dyffryn galar yw'r bywyd hwn; a bydd raid i ti olchi dy lwybrau caregog âg ychwaneg o ddagrau eto na hynyna. Fe wylodd UN uwch na thydi, pan ar ymweliad o gariad â'r byd hwn; ac nid oes neb o'i blant nad ydynt yn gorfod colli dagrau weithiau. Gwir fod gyrfa ambell un yn fwy trallodus nag eraill; ond cofia fod Llaw Anfeidrol wrth y Llyw, a Doethineb Hollwybodol yn trefnu amgylchiadau dyn. Pa beth bynag a ddaw i'th gyfarfod—pa gyfyngderau bynag y rhaid i ti fyned trwyddynt, dysg ymddiried yn y Doeth o Galon a'r Galluog o Nerth.