Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn amlwg fod Mrs. Owen Huws wedi gwneud ei goreu glas i gael golwg fawreddus ar y ty, ac arni ei hunan hefyd; ac er nad oedd hi wedi thau fawr i gyd ar ei gwallt mattiog, eto yr oedd ganddi gap o lun hollol wahanol i ddim a welodd Marged Huws erioed yn y wlad, ac yr oedd y cap hwnw yn llawn o rubanau flamllyd ac amryliw. Nid oedd yno ddim prinder o'r hyn a ystyriai y letywraig yn addurniadau; ond yr oedd y ty yn amddifad o daclusrwydd, glanweithdra, cysur, a pharchusrwydd,

Dechreuodd y genethod bychain goleddu syniadau îs nag o'r blaen am ardderchogrwydd Llynlleifiad. Druain o honynt! byddai'n dda pe na welent fwy na hyny o anfadrwydd y lle. Ac nid oedd Mrs. Huws ond esampl gyffredin iawn o un dosbarth lluosog o'r trigolion—pobl ddiddarbodaeth digon caredig yn eu ffordd, ond heb erioed ystyried pa fodd i ychwanegu cysur at eu haelwydydd eu hunain, na dedwyddwch eu teuluoedd. A bu yn ddrwg genym lawer gwaith ganfod amryw o ferched Cymru yn Llynlleifiad yn teilyngu y nodwedd.

Cytunwyd ar fod i ddwy ystafell o dŷ Owen Huws gael eu gosod i William a'i dylwyth, hyd nes y caffai ef waith, a gallu o hono gymeryd ty cyfan iddynt eu hunain.

Gan mai nid ysgrifenu bywgraffiad yr ydym, ni fydd i ni ddylyn hanes William Huws yn fanwl, gam a cham. Ac heblaw hyny, rhaid i ni ddychwelyd yn fuan at brif wrthddrych ein chwedl, sef Huw Huws.

Bu William am wythnosau lawer heb un math o waith. Gwnaeth ei frawd bobpeth a allai ef drosto; ond nid oedd ei allu eithr ychydig; a diau y buasai yn haws i William gael ei gyflogi mewn màn neu ddau, oni bai mai Owen oedd yn ei gymeradwyo.

Darostyngwyd William a'i deulu i dlodi a chyfyngder. Yr oedd eu harian wedi myned i gyd, a hwythau heb fodd i gael ymborth yn hwy, heb geisio coel, ac at bwy yr oeddynt i fyned i ymofyn am hyny? Aeth Mrs. Owen Huws hefyd yn fwy sarug, am nad oeddynt mwyach yn gallu talu am eu dwy ystafell. I ychwanegu at eu hadfyd, dechreuodd Mari fyned yn glaf;—yr oedd yr awyr afiach, a'r gwahaniaeth bwyd, a phrinder hyd yn nod o hwnw fel yr oedd, yn dylanwadu yn anffodus ar ei chyfansoddiad. Ac fe ddichon fod ei hiraeth am Gymru hefyd yn ychwanegu at y pethau eraill. Collodd ei sirioldeb; aeth yn bruddglwyfus, ac yr oedd arwyddion o nychdod sicr arni.

Dechreuodd bochau Lowri a Sarah hefyd lwydo, a'u llygaid bantio; a gwelid arwyddion o dristwch mynych ar eu gwynebau ieuainc a hawddgar. Ac, yn raddol—yr hyn a