ofidiodd fwy ar galon Marged Huws na'i holl adfyd ynghyd—fe ddechreuodd Lowri duchan a grwgnach. Ond, hyd yn hyn, nid oedd y peth wedi dyfod yn ddigon pwysig i Marged ei ystyried yn werth tristau ei gwr trwy ei fynegi iddo; ond penderfynodd wylio yn ddyfal ar ei hail eneth, gan geisio atal y nwyd peryglus rhag cael meistrolaeth arni.
O'r diwedd, cafodd William Huws waith llafurwr mewn haiarn-weithfa fawr. Daeth pelydr o obaith adnewyddol i'w feddwl, a dychwelodd i'w lety y prydnhawn hwnw yn siriolach nag y bu er's llawer o wythnosau. Siaradodd yn obeithgar, gyda'i wraig a'i blant, a dechreuodd y cyfan, oddigerth Mari, bortreadu dyfodiant dedwydd iddynt oll.
"Cewch chwi—Lowri a Sarah"—ebe'r fam, "fyn'd i'r ysgol yn fuan bellach; a chdithau, Mari, ti gei chware tegi fendio, a dwad yn ddigon cref i gael lle da i weini. Cod dy galon ngeneth i—mae dy dad yn sicr o enill digon o arian i ti gael bwyd da i gryffhau."
Fflachiodd sirioldeb yn llygaid y ddwy eneth leiaf; ond ni welwyd un arwydd o lawenydd ar wedd Mari, ac ni wnaeth ddim ond cusanu ei mam, a gollwng ochenaid, wrth glywed y dyfodiant yn cael ei liwio felly a lliwiau gobaith a chysur.
Yn awr, ni a adawn William Huws, ei wraig, a'i dair geneth, yn Llynlleifiad, gan addaw gadael i'r darllenydd wybod eto, rhagllaw, eu helyntion yno.
PENNOD V.
"Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus. "Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith." —SOLOMON
Bu y Parch. Mr. Lloyd cystal a'i air. Cymerodd ofal dyfal am iechyd a chysur corfforol, yn gystal a diwylliad meddyliol, a chynydd crefyddol ei was, Huw Huws. Ac yr oedd Huw, yntau, yn ad-dalu yn dda i'w feistr am ei holl ofal a'i garedigrwydd, trwy ffyddlondeb diwyrni, fel gwas, a thrwy wneud y defnydd goreu o'i oriau segur i ddiwyllio ei feddwl. Yr oedd ei gynydd anianyddol a meddyliol yn gyflym ac amlwg. Tyfodd yn las-lanc cryf a gweithgar; ond yr oedd llawer o wahaniaeth rhyngddo ef a llafnau o'r un wedd ag yntau, yn gymaint ag fod trallodion blaenorol wedi dwyseiddio llawer ar ei feddwl, ei efrydiaethau noswyliol wedi gosod argraff o feddylgarwch ac uchafiaeth ar ei feddwl a'i ymadroddion, a'i ymlyniad diffuant wrth arferion crefyddol wedi ei nodi yn wrthddrych cellwair bechgyn anystyriol, a pharch a hoffder pob crefyddwr a'i hadwaenai.