BEIRNIADAETH
Y PARCH. J. EVANS (I. D. FFRAID),
AR Y FFUGDREITHIAU YN Y GYSTADLEUAETH.
Derbyniais bedair ysgrif ar y testyn "Y Llafurwr Cymreig." Y maent oll oddigerth un yn weddol ddifai o ran Iaith a Gramadeg. Yn wir, rhagora yr ysgrifenwyr mewn Iaith dda a dullwedd naturiol a destlus ar y cyffredinolrwydd o gystadleuwyr y cefais I y boen a'r pleser o edrych dros eu gweithiau. Buasai dda genyf allu ychwanegu fod pob un yn deall y testyn, ac yn arddangos darfelydd a barn cymhwys i wneyd cyfiawnder ag ef. Nid wyf yn meddu gwybodaeth ddofn yn nghylch elfenau yr hyn a elwir yn Ffugdraith, ond yr wyf yn meiddio dyweyd yn ddibetrus mai nid Ffugdraith yw ysgrif Cyfaill Owain Iorwerth, na chwedlau Helynt y byd, na chyfansoddiad St. Baglan.
Cyfaill Owain Iorwerth. Mae y cyfaill hwn gryn lawer ar ol ei gydymgeiswyr fel cyfansoddwr. Mae ei sillebiaeth yn fynych yn wallus a'i frawddegau yn aflerw. Mae yn ei waith rai sylwadau ag sydd yn anrhydedd i galon yr ysgrifenydd, ond nid oes ynddo odid ddim a adlewyrcha ogoniant ar ei ben fel awdwr Ffugdraith. Y mae yn hollol ddiffygiol mewn dychymyg ac anturiaeth. Gall fod yn y gwaith farmor, ond marmor Mon mewn magwyr ydyw. Nid palas yw can' milltir o wal geryg—nid Ffugdraith fyddai can' tu dalen o ffughanes syml. Rhaid i'r Ffugdraith ddwyn argraff llaw saerniaeth yn gosod y defnyddiau yn nghyd ar ddelw adeilad o gynlluniad dychymyg celfydd.
Helynt y byd. Y mae yr ysgrifenydd hwn yn meddu digon o bertrwydd. Ceir drwy ei waith ddarluniau bywiog a naturiol, er hwyrach ei fod weithiau yn lliwio yn rhy gryf. Bai mawr y Traith hwn yw ei fod yn amddifad o Arwr. Dylai y Ffugdraith debygoli mewn rhan i'r gyfundraeth heulog—haul yn y canol, a phlanedau yn eu cylchoedd priodol Nid oes gan "Helynt y byd" yr un haul: man blanedau yn unig sydd yma yn gwib-grwydro.